Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/199

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r cylchgrawn hwn wneyd lles dirfawr trwy ddyfod â'r dalent Gymreig i'r golwg—bu yn gyfrwng da i lenorion a beirdd galluog (oeddynt gydmarol anhysbys o'r blaen) i ddyfod i sylw y wlad. Gwnaeth cyhoeddi, yn y cylchgrawn hwn, gynnyrchion Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, 1858, er enghraipht, les mawr mewn llawer ffordd. Trwy y cyhoeddiad hwn, i ddechreu, daeth y Cymry i wybod am "Brwydr Maes Bosworth " (Eben Fardd), "Cymeriad Rhufain" (Nicander), "Myfanwy Fychan" (Ceiriog), &c., ac felly rhoddwyd goleuni a choffadwriaeth i gynnyrchion y buasai yn golled bod hebddynt. Diau fod y cyfnodolion wedi gwneyd eu rhan i roddi ei le priodol i lawer dyn mawr a fuasai, i bob golwg pe heb hyny, wedi cael ei adael heibio. Cymerer W Williams (Pantycelyn) fel un enghraipht: nid oedd y peraidd-ganiedydd hwn wedi cael ei adnabod gan ei oes ei hun—ni cheid ef yn mhlith beirdd ei genhedlaeth, a phrin y cydnabyddid ef ganddynt o gwbl. Llithrodd heibio ddarn helaeth o'r oes hon hefyd cyn iddo gael ei le, a diau mai ysgrifau y Parch. W. Rees (Hiraethog), yn Y Traethodydd am y blynyddoedd 1846-7, yn benaf, a fu yn foddion iddo gael y lle a deilyngai yn syniad y wlad, ac y mae lle i ofni na buasai y genedl wedi dyfod i adnabod ac i iawn-brisio gweithiau Williams oni buasai am yr erthyglau hyny. Gellir dyweyd fod rhai ysgrifau wedi ymddangos yn ein cylchgronau ag ydynt wedi troi allan yn sylfaeni rhai o'r llyfrau mwyaf poblogaidd yn yr iaith. Ceir, ar y meusydd hyn, fod ein llenorion yn cael cyfleusderau i gyd-gyfarfod, i adnabod eu gilydd, i gyfnewid meddyliau, i adolygu gweithiau eu gilydd, ac, os bydd galw am hyny, i ymgodymu, ac yn yr oll, a thrwy yr oll, gwneir gwasanaeth dirfawr ac arosol, mewn gwahanol gysylltiadau, i lenyddiaeth Gymreig, ac