Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/200

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae hyny drachefn, yn ei gyfeiriad ei hun, yn dylanwadu ar y bywyd Cymreig.

4.—Dylanwad Deallol.—Ceir fod y gwahanol gylchgronau bron oll, i raddau, yn eu ffordd eu hunain, yn cyfranu gwybodaeth. Ofnwn, fel yr awgrymwyd o'r blaen, eu bod yn euro gormod ar yr un cyfeiriadau, tra yn esgeuluso cyfeiriadau eraill yn llwyr. Ond, er hyny, y mae yn llawenydd genym weled, yn ystod y blynyddoedd diweddaf hyn, fod cylchgronau newyddion yn cael cychwyn, a'r rhai hyny yn tori tir newydd, ac nid oes genym ond gobeithio y caiff eu cyhoeddwyr gefnogaeth y wlad tra y parhaont i deilyngu hyny. Wrth son am ddylanwad deallol ein cylchgronau, dylai enw y Parch. Walter Davies (Gwallter Mechain) gael lle anrhydeddus, fel un a wnaeth lawer, a hyny mewn ffordd ddistaw, tuagat oleuo a dysgu ei gyd-genedl. Ystyrid ef yn ddyn nodedig, a phan oedd yn golygu Y Gwyliedydd byddai ei holl adnoddau meddyliol yn cael eu tywallt iddo, a meddylier fod dynion fel Ieuan Glan Geirionydd, John Blackwell (Alun), Ioan Tegid, &c., yn ei gynnorthwyo, ac yn cyd-ysgrifenu âg ef, ac yna gwelir fod ei gylchgrawn yn "ganwyll yn llosgi " mewn gwirionedd. Nid oes amheuaeth na ddarfu i ymddangosiad Tarian Rhyddid ysgwyd a chynhyrfu yr holl wlad, a bu ei ysgrifau llym yn foddion i arwain sylw a goleuo pobl yn nghylch gwelliantau gwladol ac eglwysig. Pwy all ddyweyd maint dylanwad ysgrifau S. R. a J. R. yn Y Cronicl ar y farn gyhoeddus yn nghylch y rheilffyrdd haiarn, y llythyr-doll ceiniog, rheolaeth drefol, cadwraeth ffyrdd, &c., mewn ffordd o barotoi ac aeddfedu pobl Cymru at y cyfryw ddiwygiadau gwladol a chymdeithasol? Er nad oedd y cylchgrawn bychan hwn, yn ei ddechreuad, o ran maintioli, ond oddeutu chwe' modfedd o hyd, a thair a haner o led, gydag ond wyth o ddalenau, eto yr oedd fel seren lachar yn ffurfafen