Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/213

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llythyrau drachefn ar y llyfr hwn i'r gwahanol gylchgronau, ac ymddengys fod llawer ohonynt yn gyfryw nas gallasent gael argraph ddymunol. Gwelir felly fod llawer o'r elfen ddadleuol wedi ei chario yn mlaen ag y mae yn amheus, a dyweyd y lleiaf, yn nghylch ei gwir ddylanwad. Yn Ebrill, 1821, dechreuwyd cyfres o lythyrau yn Goleuad Cymru, gan rai a alwent eu hunain yn "Cymro Gwylit" a "Britwn" (er y bernir, mewn gwirionedd, mai yr un oedd yr awdwr), ac ystyrid y rhai hyn yn hynod alluog, ac yr oeddynt yn wrthwynebol iawn i bob eithafion mewn cyfundraeth, a baich yr ysgrifau oedd fod y Beibl yn fwy na phob cyfundrefn." Braidd, wrth ymosod ar ddadleuaeth dduwinyddol, nad oedd yr ysgrifenydd hwn yn tueddu at lesteirio pob ymchwiliadaeth Feiblaidd—dyna ei berygl; ond, er hyny, nis gellir dyweyd faint y lles, yn arbenig yn ystod y cyfnod cynhyrfus hwnw yn hanes Cymru, a fu ei lythyrau mewn cymedroli teimlad y wlad, cyfartalu y gwahanol wirioneddau cyferbyniol, dysgu tegwch mewn dadleuon, ac eangu syniadau darllenwyr Cymreig. Gwelir, drwy y pethau hyn oll, fod dylanwad ein cylchgronau megis wedi ei gydweu a'r bywyd cenedlaethol. Treiddia bob ffordd. Addefwn yn rhwydd fod llawer ohono yn gweithio mor ddwfn ac anweledig, fel y mae yn anmhosibi i'r un ysgrifenydd ei ganlyn, ac eto hyderwn ein bod wedi ei ffyddlawn-ddilyn yn ei lwybrau amlycaf. Gallwn sicrhau ein bod yn hollol ystyriol o'r pwys a berthyn i gael cyfnodolion teilwng a daionus eu dylanwad, oherwydd, yn benaf, eu cysylltiad agos â natur y bywyd Cymreig. Nis gallwn ddiweddu yr adran hon yn fwy priodol na thrwy ddifynu geiriau y diweddar Barch. Henry Rees, Lerpwl, y rhai a ysgrifenwyd ganddo fel math o gynghor i'r diweddar Barch. L. Edwards,