Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/214

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

D.D., Bala, pan ar fedr cychwyn golygu Y Traethodydd:— "Os ydych am droi allan i'r byd mewn cyhoeddiad, marchogwch, atolwg, mewn cerbyd teilwng o'ch gradd, neu aroswch gartref, a pheidio ag ymddangos gerbron y cyffredin o gwbl. Gochelwch y geiriog, y gwyntog, y cecrus, y di-ddrwg di-dda, y geiriau heb fater, y mater heb yspryd, ac yspryd heb foneddigeiddrwydd—y cyfansoddiad merfaidd heb ddim byd ynddo, a'r cyfansoddiad na bydd dim ynddo ond bustl a phupur. Mae digon o lymru, ac o gawl wermod, ar hyd y wlad eisioes. Deuwch â bwyd i'r bobl; ac os yw eu harchwaeth yn rhy lygredig i'w fwyta, yn hytrach na pharatoi dim at y taste llygredig hwnw, rhoddwch heibio goginio, a gadewch y gorchwyl o hel gwynt i'r dreigiau, a gwneyd diod griafol i rywun arall,"