Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/232

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddylanwad arnynt? Nid oes yr un amheuaeth yn nghylch natur ddaionus dylanwad Y Wawr a'r Cenhadwr —mae yn cynnyddu fwy-fwy, ac wrth son am y Cenhadwr dylid enwi Dr. Everett fel dyn a gyflawnodd wasanaeth mawr i'w gyd-genedl, ac a wnaeth ei oreu i gyfarfod anghenion llenyddol a chrefyddol y Cymry pell. Gresyn oedd i'r cyhoeddiad chwarterol clodwiw—Y Taethodydd gael ei roddi i fyny: gwnaeth les mawr, a chredwn mai cam yn yr iawn gyfeiriad a fyddai i Gymry yr America wneyd ymdrech i sefydlu eto un cylchgrawn chwarterol da un ag y gellid edrych arno fel cyhoeddiad safonol a chenedlaethol. Gwyddom fod yno ddigon o dalent ac athrylith Gymreig i gychwyn cylchgrawn o'r fath. Mae yn anhawdd siarad yn rhy uchel am ddylanwad da Y Cyfaill o'r Hen Wlad ar fywyd y Cymry yn yr America, er, yn fwyaf neillduol, mai yn nghylchoedd cyfundebol y Methodistiaid Calfinaidd y gweithreda ei ddylanwad gryfaf. Dylid, er cael golwg glir ar ei ddylanwad, ystyried sefyllfa wasgaredig, anfanteisiol, ac egwan y Cymry yn nghyfnod boreuol cychwyniad y cylchgrawn hwn. Mae hanes taith Dr. Rowlands, ei gychwynydd a'i olygydd, trwy y wlad hono yn ystod y flwyddyn 1837, er mwyn deall sefyllfa ei gyd-genedl, yn hynod ddyddorol; a diau fod amcan, canlyniadau, a ffrwyth y daith hono yn ddigon i anfarwoli enw Dr. Rowlands yn mhlith y Cymry. Gyda golwg ar ddylanwad y cylchgrawn hwn, gwrandawer ar eiriau y Parch. Howell Powell, New York, ac nis gellid cael yr un dyn cymhwysach i roddi barn ar y pwnc hwn:—"Yn mlynyddoedd cyntaf Y Cyfaill cawr hanes ein henafiaid yn America, a'r gwasanaeth a wnaeth enwogion Cymreig i ennill ein hannibyniaeth wladol, a sefydlu ein llywodraeth werinol—eglurhad ar gyfansoddiad ein gwlad fabwysiedig ein breintiau a'n dyledswyddau fel dineswyr—