Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/233

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwersi gramadegol a cherddorol—hanes sefydliadau newyddion, a gweithleoedd, er mantais i ymfudwyr yn gystal a hanes crefydd yn ei holl gylchoedd. Pleidiai ddiwygiadau mawrion yr oes, megys y Cymdeithasau Dirwestol, Cenhadol, a Beiblaidd; a bu Y Cyfaill yn foddion i gyffroi llawer cymydogaeth i sefydlu canghenau newyddion, ac i rymuso a bywioccau yr hen. Pwy a fedr ddyweyd byth werth y cymhorth a wnaeth i'r Ysgol Sabbothol, drwy y parodrwydd i gyhoeddi adroddiad blynyddol o'i gweithrediadau am yspaid mor hir, a chyffroi llafur Beiblaidd? Yr oedd yn awyddus i amddiffyn y gwirionedd. Mor barod yr oedd yn wastad i godi ei lais yn erbyn cyfeiliornadau dinystriol, anffyddiaeth, Milleriaeth, a'r cyffelyb. . . . . . Gyda'r un parodrwydd y cai Y Cyfaill wasanaethu yn erbyn llygredigaethau yr oes, ac arferion yr amseroedd, a dybiai a fyddai â gogwydd ynddynt at lygredigaeth, ac i anmharu sancteiddrwydd a symlrwydd crefyddol, fel yr ysgrifau nerthol a brwdfrydig o'i eiddo yn erbyn y dramas a'r mân chwareu mewn capelau. Yr oedd cymaint o degwch, boneddigeiddrwydd, nerth, a chrefyddolder yn ei ysgrifau, fel na allai ei wrthwynebwyr lai na'i garu a'i barchu, hyd yn nod pan yn methu llwyr gredu a chydaynio â'i syniadau. Yr oedd dylanwad mawr gan ei ysgrifeniadau ar feddwl y lluaws, a chanlyniadau bendithiol iddynt. Yr oedd golwg y lluaws ato fel eu prif athraw." Dyna eiriau dyn ag y gellir rhoddi pwys ar bob gair o'i eiddo ar y mater hwn. Pwy all ddyweyd gwerth cylchgrawn o'r cymeriad hwn i bobl wasgaredig mewn gwlad estronol?

Ymddengys i ni, with gymeryd holl lenyddiaeth newyddiadurol a chylchgronol yr America i ystyriaeth, ei bod, ar y cyfan, mewn cystal sefyllfa ag y gellid