Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/234

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn rhesymol ddisgwyl. Addefir ei bod, mewn rhai enghreiphtiau, yn lled arwynebol, ac efallai, ambell waith, yn sawru hunanoldeb a balchder; ond, with ei chymeryd oll i'r cyfrif—bob ffordd—mae pawb yn rhwym i gydnabod ei bod wedi gwneyd gwasanaeth mawr iawn i'r Cymry pellenig, a diau y gwna fwy eto fel y bydd amgylchiadau y wlad eang hono yn dyfod yn fwy sefydlog. Gan y bydd, i bob golwg, yr America yn gartref ac yn gyrchfan i laweroedd o'r Cymry yn y dyfodol, y mae o'r pwys mwyaf ar i wasg Gymreig y wlad hono fod yn bur, yn ddiogel, ac yn cael ei chadw mewn dwylaw glân—cael dynion da yn gyhoeddwyr, golygwyr, a gohebwyr iddynt. Pe buasem yn rhoddi cynghor i Gymry America, buasem yn dyweyd wrthynt am ymdrechu cael y dynion goreu i gymeryd gofal o'r wasg, ac nid ymddiried y gwaith i gymeriadau hanerog, di-allu, amheus, ac wedi methu mewn cyfeiriadau eraill, &c., ond ei wneyd yn bwynt arbenig i gael y goreuon i sefyll ar lanerch mor bwysig a chyhoeddus; ac yn yr yspryd hwn, gyda'r dymuniadau uwchaf am wir les a llwyddiant ein pobl oddicartref, yr ydym yn cywir obeithio y bydd i'r wasg Gymreig barhau i oleuo, cryfhau, diddanu, dyrchafu, a gwella ein cyd-genedl anwyl tra y bydd Cymry i'w cael yn ngwlad fawr y Gorllewin.

Wele ni, bellach, yn terfynu ein gwaith. Gwnaethom bob ymdrech, drwy ystod yr holl ymchwiliad, i sicrhau cywirdeb, a hyderwn ein bod wedi llwyddo, i raddau, tuagat hyny. Ymdrechwyd myned i mewn i ystyr ac yspryd testyn y llyfr yn ei wahanol agweddau, a chymerwyd gwedd eang arno, ac eto dal yn ei olwg o'r dechreu i'r diwedd. Gallwn sicrhau ein darllenydd i ni amcanu bod yn berffaith deg yn ein cyfeiriadau,