Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma arwyddair (motto) Cronicl yr Oes, yr hwn a geid ar ei wyneb -ddalen:—"Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y Brenin. Agor dy enau dros y mud. Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim. Oni fedrwch arwyddion yr amserau?" Ond, yn Mehefin, 1837, ac yn mlaen ceir mai yr arwyddair ydyw:—"Dyma y pethau a wnewch chwi: Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth." Yr ydym wedi methu gweled yr un rhifyn o hono ar ol yr un am Ionawr 15fed, 1839, a'r tebyg ydyw mai hwn yw y diweddaf, ac felly parhaodd Cronicl yr Oes am oddeutu pedair blynedd, a sicrheir ni gan rai yn meddu mantais i wybod mai nid oherwydd diffyg cefnogaeth y rhoddwyd ef i fyny, ond yn hytrach ar gyfrif amledd goruchwylion eraill y golygydd.

Y Papyr Newydd Cymraeg, 1836.—Newyddiadur ydoedd hwn a gychwynwyd oddeutu dechreu y flwyddyn 1836, ac a gyhoeddid, fel y tybir amlaf, yn swyddfa fechan Mr. Hugh Hughes, arlunydd, Caernarfon. Efe hefyd ydoedd yn ysgrifenu llawer iddo, a dichon fod Caledfryn yn ei gynnorthwyo. Er mwyn osgoi y dreth newyddiadurol, ni chyhoeddid ef ond unwaith yn y mis, a dywedir na ddaeth allan o hono ond pymtheg rhifyn.

Y Gwron Cymreig, 1838.—Cychwynwyd hwn yn nechreu y flwyddyn 1838, ac argrephid ef gan Mr. Josiah Thomas Jones, Caernarfon, a golygid ef am yspaid gan Mr. W. Ellis Jones (Cawrdaf), Caernarfon. Parhaodd y newyddiadur hwn i ddyfod allan dan yr un enw am oddeutu dwy flynedd, ond yn nechreu y flwyddyn 1840 newidiwyd ei enw, a galwyd ef Y Gwron Odyddol. Gwnaed hyn, yn benaf, er mwyn sicrhau cefnogaeth neillduol yr Odyddion, y rhai oeddent, y pryd hwnw,