Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ab Nudd, ac mewn dialedd, llwyddodd i gychwyn newyddiadur gwrthwynebol iddo o'r enw Yr Anti-Figaro, a chafodd gan Mr. L. E. Jones, Caernarfon, i'w argraphu, ac efe ei hun yn olygydd iddo. Aeth yn ymladdfa front rhyngddynt, ac aeth y ddau i ymgecru mewn dull mor isel ac anfoneddigaidd, nes y penderfynodd y gyfraith wladol roddi terfyn ar einioes y ddau newyddiadur gyda'u gilydd, a hyny trwy atafaelu eiddo y ddau argraphydd!

Y Gwladgarwr, 1846.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1846, gan y Parch. John Jones, Llangollen (Jones Llangollen), ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac yn gyfrifol am dano, ond am enyd fer y parhaodd i ddyfod allan.

Y Cymro, 1848.—Newyddiadur wythnosol ydoedd hwn, a chychwynwyd ef yn y flwyddyn 1848, dan nawdd pwyllgor Eglwysig, yr hwn a arferai gyd -gyfarfod yn Bangor. Edrychid arno, i bob pwrpas ymarferol, fel dilynydd i'r Protestant, yr hwn oedd wedi cael ei roddi i fyny er's yspaid yn flaenorol, a gwasanaethai yn gwbl yn mhlaid yr Eglwys Sefydledig. Ei olygydd a'i argraphydd, i ddechreu, ydoedd Mr. Hugh Williams (Cadfan), a dywedir ei fod, yn ystod y blynyddoedd 1851–3 dan olygiaeth y Parch. R. Harris Jones, M.A., ficer Llanidloes, ac hefyd fod y Parch. R. Parry Jones, M.A., Gaerwen, yn ymwneyd llawer âg ef. Bu y newyddiadur hwn yn cael ei argraphu yn Bangor, yn Llundain, a bu, am yspaid, yn cael ei ddwyn allan yn Treffynnon gan Mr. William Morris, argraphydd, ac yna. pan symudodd Mr. Morris ei swyddfa i Ddinbych, bu yn cael ei argraphu yno hefyd, ac ymddengys mai yno, ar ol oes fer a hynod symudol, y rhoddwyd ef i fyny.

Seren Cymru, 1851.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn Hydref, 1851, dan olygiaeth Mr. Samuel Evans,