Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyn olygydd Seren Gomer, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. W. Morgan Evans, Caerfyrddin. Ei bris ydyw ceiniog. Darfu i Mr. Evans, oherwydd uchder y dreth newyddiadurol a threuliadau eraill, roddi i fyny Seren Cymru, oddeutu Ebrill, 1853, ac ymddengys ei fod, drwy ei gysylltiad â'r newyddiadur hwn, o'r dechreu hyd hyny, wedi colli llawer o arian. Bu iddo, modd bynag, ail-gychwyn Seren Cymru, a daeth y rhifyn cyntaf allan ar Rhagfyr 13eg, 1856, gyda Dr. J. Emlyn Jones yn olygydd, a throdd yr anturiaeth hon allan yn llwyddiant. Ar ol dwy flynedd, rhoddodd Dr. Emlyn Jones yr olygiaeth i fyny, ac am y pymtheg mis dilynol dygwyd allan y Seren dan olygiaeth y cyhoeddwr ei hunan. Ceir, oddeutu dechreu Ebrill, 1860, fod Dr. Price, Aberdâr, wedi cydsynio i olygu y gwahanol ohebiaethau, a chydsyniodd Dr. Morgan (Lleurwg), Llanelli, i olygu y farddoniaeth. Darfu i Dr. Price, oddeutu Ebrill, 1876, oherwydd afiechyd, roddi ei swydd i fyny, ac am y chwe' mis dilynol, disgynodd bron yr holl ofal ar Lleurwg, ac yn Medi, 1876, ymgymerodd y Parch. John Jones, Felinfoel, a chynnorthwyo yn yr olygiaeth. Ymddengys fod Seren Cymru, ar hyn o bryd, dan olygiaeth y Parch. B. Thomas (Myfyr Emlyn), Narberth. Dylid dyweyd mai yn bymthegrosol y cyhoeddid y newyddiadur hwn o'r dechreu, hyd y flwyddyn 1862, pryd y trowyd ef yn wythnosol, ac felly y mae yn parhau. Pan dan olygiaeth Mr. Samuel Evans, ar y cyntaf, cymerai Seren Cymru safle annibynol a chenedlaethol, heb broffesu bod yn perthyn i'r un enwad yn neillduol; ond yn fuan, ar ol ei ail-gychwyn, daeth i gysylltiad â'r Bedydiwyr, ac er nad yw yn eiddo swyddogol i'r enwad hwnw, fel enwad, eto edrychir arno fel newyddiadur arbenig at wasanaeth y Bedyddwyr yn Nghymru.