Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caernarfon. Ystyrir Yr Herald Cymraeg yn newyddiadur Rhyddfrydol. Bu yn cael cylchrediad eang iawn, a dywedir y bu unwaith yn cyrhaedd oddeutu 25,000 yn wythnosol; ond, ar gyfrif amledd newyddiaduron eraill a gychwynwyd ar ei ol, yn nghyda chyfnewidiadau aml a sydyn yn ei olygiaeth (mewn un cyfnod), &c., disgynodd ei gylchrediad yn llai.

Y Telegraph, 1855.—Yn fuan ar ol cychwyniad Yr Herald Cymraeg, darfu i Mr. Hugh Humphreys, Caernarfon, gychwyn newyddiadur wythnosol ar yr enw hwn, a'i bris ydoedd ceiniog. Efe ei hunan oedd yn ei olygu ac yn ei argraphu. Ni chynnwysai ond newyddion, heb yr un esboniad na beirniadaeth arnynt, nac unrhyw annogaeth neu wersi oddiwrthynt. Ond ni bu yn llewyrchus, a gwelodd y cyhoeddwr, ar ol ychydig wythnosau, mai doeth ydoedd ei roddi i fyny.

Sylwedydd, 1855 —Dyma yr enw a roddwyd gan Mr. Richard Davies, Caernarfon, ar newyddiadur ceiniog a gychwynwyd ganddo yn fuan ar ol dilead y dreth newyddiadurol. Argreffid ef gan y Meistri Lewis Jones ac Evan Jones, Caergybi Coleddai y newyddiadur hwn syniadau annibynol, a chafodd dderbyniad da am rai wythnosau, ond ofnir ei fod wedi cael ei gychwyn braidd yn frysiog, a'r canlyniad a fu iddo gael ei roddi heibio yn fuan.

Yr Eifion, 1856.—Cychwynwyd y newyddiadur bychan hwn ar Ionawr 3ydd, 1856, yn Pwllheli, gan y Parch. Hugh Hughes (Tegai), ac efe oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan y Meistri Hughes a'i Gyf., Heol Pen lan, Pwllheli. Ei arwyddair ydoedd "Rhyddid." Deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd dimai, a bernir mai hwn ydoedd y newyddiadur dimai cyntaf yn yr iaith. Ni pharhaodd i ddyfod allan ond am ychydig fis oedd.