Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac efe hefyd sydd yn ei argraphu. Daw allan yn wyth- nosol, a'i bris ydyw dimai. Ymddengys mai ei amcan ydyw er fod llawer o elfen leol ynddo-gwasanaethu chwarelwyr Gogledd Cymru, a'r arwyddair, ar ei wyneb- ddalen, ydyw: "Gwlad Rydd a Mynydd i mi" Rhodd. wyd ef i fyny yn fuan.

Y Clorianydd, 1891.—Ymddangosodd y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn ar Awst 13eg, 1891, a chychwynwyd ef gan Gwmni Undebol a Cheidwadol yn Môn, ac argrephir ef, ar ran y cwmni hwn, gan Mr. John Hughes, Bridge- street, Llangefni. Mae yn ddealledig mai i amcanion Ceidwadol yn Môn, yn benaf, y cychwynwyd ef. Dygwyd ei rifynau cyntaf allan dan olygiaeth Mr. John J. Parry, a bu Mr. John Hughes, Frondeg, Amlwch, yn ei olygu, ond deallwn mai Mr. T. Abraham Williams, Bangor, sydd yn ei olygu yn bresennol. Daw allan yn wythnosol, a'i bris ydyw dimai.

Y Brython Cymreig, 1892.—Cychwynwyd hwn yn Ionawr, 1892, gan Gwmni—Saeson a Chymry—Ceidwadol, ac argrephir ef, ar ran y cwmni, yn Llanbedr, Ceredigion, Golygir ef gan Mr. H. Tobit Evans, ac efe, ar hyn o bryd, sydd yn ysgrifenu y rhan fwyaf iddo. Mae yn amlwg fod y newyddiadur hwn yn mhlaid Ceidwadaeth. Daw allan yn wythnosol, a'i bris ydyw dimai. Er mai lleol ydyw ei brif nodwedd, eto mae yn rhoddi sylw i wleidyddiaeth mewn gwedd gyffredinol, ac wrth ystyried ei bris, rhaid dyweyd ei fod yn dda.

Efallai y gallesid enwi ychwaneg o'r man newyddiaduron lleol, a gwyddom gallesid enwi ychydig o'r newyddiaduron na bu iddynt ond ymddangos am enyd fer, ac yna diflanu o'r golwg, ond y gwirionedd ydyw, nad oes prin hanes o gwbl i lawer o'r dosparthiadau newyddiadurol hyn. Gellir dyweyd, yn hollol deg, fod llawer o