Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bigog-yn llawn o'r ymosodiadau iselaf ar gymeriadau personol. Ymddengys, yn ol yr hanes, mai testyn llawenydd a fuasai fod y ddau newyddiadur hyn heb erioed weled goleuni dydd; anhawdd oedd iddynt ateb unrhyw ddyben heblaw porthi tueddiadau annheilwng dynoliaeth ddirywiedig. Yr ydym yn cofio amser, ar adeg etholiad wleidyddol, pan oedd y doniol Mynyddog, ar faes newyddiadur neillduol, yn galw yr enwog Tanymarian yn "Tân-am-arian," ac, o'r tu arall, Tanymarian, mewn atebiad ar yr un maes, yn galw Mynyddog yn "Money- dog," ac ymddengys i ni fod hyny yn beth anffodus iawn; a diau, wrth weled dynion cyhoeddus o'r fath wedi ymollwng i alw eu gilydd ar y fath enwau, fod hyny yn tueddu at arwain y genedl ieuanc i edrych yn ddi-bris ar enw da. Gallesid enwi amryw engreiphtiau eraill sydd yn dangos fod aml i helynt newyddiadurol wedi chwerwi a dolurio teimladau am oes, yagaru teuluoedd, ac aflonyddu ar heddwch cymydogaethau cyfain. Addefwn, gyda phleser, nad yw y pethau hyn ond eithriadau, er hyny da fyddai eu cael ymaith yn gwbl. Pa anghen sydd am danynt? Paham na ellid dadleu cwestiynau heb archollion? Na fydded i neb ein camgymeryd: credwn, i raddau, ac mewn rhai amgylchiadau, fod ystormydd ya angeurheidiol—gallant buro cymdeithas, a chadw gwlad rhag llygra, a dylid bod yn ddiolchgar am danynt yn eu tro; ond y mae gwahaniaeth rhwng hyny âg ystormydd di-achos a di-fudd—ystormydd gwneyd—ac, hyd yn nod gyda'r ystormydd gwir angenrheidiol, dylid ymdrechu myned drwyddynt heb golli mwy nag à ennillir, ac achosi chwerwder a drwgdeimladau. Credwn fod yn y pethau hyn oll, y rhai a ddesgrifiwyd fel diffygion, wrth gymeryd y cwbl yn nghyd, fath o ddylanwad distaw, dirgelaidd, ac uniongyrchol ar