Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diau fod gan yr ystyriaethau hyn oll, y rhai a enwyd fel yn mhlith rhagoriaethau y wasg newyddiadurol yn Nghymru, eu dylanwad tawel, ac anuniongyrchol, er daioni ar fywyd y bobl.

3. Ond, diau fod ysbryd ac amcan penawd ein llyfr yn treiddio yn ddyfnach na hyn, ac yn golygu dylanwad uniongyrchol a pharhaol y newyddiaduron Cymreig ar fywyd y Cymry. Ymdrechwn, er mwyn eglurder yn nglyn â'r adran hon, enwi rhai o'r gwahanol ddadleuon, erthyglaun ac ysgrifau a ymddangosasant yn y gwahanol newyddiaduron fel rhai a fernir yn gyffredin sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar y wlad, a cheisiwn ddangos yn mha ffordd yr oedd y dylanwad hwnw yn cerdded:—

(a) Dylanwad Deallol.—Diau y cydnabydda pawb fod y newyddiaduron Cymreig yn foddion i eangu gwybodaeth cenedl y Cymry, ac yn cymeryd y blaen mewn eynnorthwyo y cyhoedd i ffurfio barn ar gwestiynan cyhoeddus. Mae yn anhawdd iawn, a dyweyd y lleiaf, ddirnad yn mha le y terfyna eu dylanwad yn yr ystyr hon, heblaw y gallwn fod yn sicr ei fod yn ddwfn a helaeth. Rhaid canmol amryw ohonynt, ar y cyfan, am eu ffyddlondeb i ddyfod â gwahanol ffeithiau a gwybodaeth gyffredinol i gyrhaedd y bobl. Os gwneir unrhyw ddarganfyddiad newydd, neu os bydd digwyddiad hynod wedi cymeryd lle, bydd y cyhoedd yn cael gwybod yr oll, a chynnorthwyir hwy i ffurfio eu syniad personol am y pethau hyn. Mae yn arferiad hefyd gan rai o'r newyddiaduron Cymreig i gyfieithu areithiau a chyfansoddiadau Seisonig, os byddant yn eithriadol, i'r Gymraeg, a bydd hyny yn foddion da i eangu gwybodaeth y Cymry ar y materion hyny. Cawn, er enghraipht, fod Dr. Fairbairn, yn ddiweddar, wedi traddodi cyfres o ddarlithiau ar "Y Meddwl Crefyddol yn y Bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg," a cheir, ychydig