Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a geir yn Yr Herald Cymraeg, les dirfawr, trwy ganiatau i'r gweithwyr, ac yn arbenig y chwarelwyr a'r glowyr, ysgrifenu—mewn holi ac ateb—ar gwestiynau yn dal cysylltiad â hwy eu hunain. Cafodd y ddadl, yr hon a ymddangosodd ar faes Y Goleuad bron ar ei gychwyniad, rhwng Dr. T. Charles Edwards, Bala, a'r diweddar Barch. H. T. Edwards (Deon Bangor), ar Duwinyddiaeth y Cymry, sylw helaeth gan y wlad, a diau iddi adael effeithiau daionus yn yr ystyr o ddeffro a goleuo y genedl i bwysigrwydd gwahanol ganghenau y pwnc; a bu llawer o ddarllen hefyd, flynyddoedd yn ol, ar "Nodiadau" gan "Un â'i lygaid yn ei ben" yn yr un newyddiadur. Cariwyd yn mlaen ddadl alluog ar faes Yr Herald Cymraeg, yn y flwyddyn 1859, ar "Yr Olyniaeth Apostolaidd." Yr oedd y Parch. Evan Lewis, deon presennol Bangor, yn byw, y pryd hwnw, yn Llanllechid, a daeth y Parch. W. Davies, D.D., Bangor, gweinidog enwog gyda'r Wesleyaid, i ddeall fod rhai o bobl Bethesda yn cael eu blino gan olygiadau Uchel-Eglwysig y Parch. Evan Lewis, a phenderfynodd Dr. Davies fyned yno i draddodi darlith ar y pwnc. Cyhoeddwyd y ddarlith, ar ol ei thraddodi, yn llyfryn chwe' cheiniog, ac arweiniodd hyn oll i ddadl gref rhwng y ddau ŵr parchedig yn Yr Herald. Ni raid dyweyd iddi dynu sylw mawr ar y pryd, a bu yn foddion i oleuo llawer ar y wlad ar wahanol agweddau y mater. Hefyd, dyna ddadl "Y Bedydd" a fu ar faes Tarian y Gweithiwr, oddeutu deuddeng mlynedd yn ol: parhaodd hon am rai misoedd, a gellid dyweyd, ar y pryd, mai hi oedd testyn siarad cyffredin y Deheudir, yn enwedig Morganwg. Amddiffynid y trochiad gan un a alwai ei hunan yn "Dewi Bach," ac amddiffynid y taenelliad gan y Parch. D. G. Jones, Ton, yr hwn a gyhoeddodd ei lythyrau, wedi hyny, yn llyfryn. Nid ein gorchwyl ni