Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yddol mewn teuluoedd ag ydynt yn arfer y ddwy iaith, ac yn enwedig y teuluoedd hyny ag sydd yn esgeuluso moddion gras.

(f) Cymru Fydd.—Cyhoeddiad chwarterol ydoedd hwn, a gychwynwyd Ionawr, 1888, gan Mr. E W. Evans, Dolgellau. Ceir mai Mr. T. J. Hughes (Adfyfyr) a fu yn ei gyd—olygu â Mr. Evans, y cyhoeddwr, am y chwe' mis cyntaf, yna Mr. Evans ei hunan am y flwyddyn ddilynol, ac, oddiar Mehefin, 1889, hyd y diwedd, bu dan olygiad y Parch. R. H. Morgan, M.A., Porthaethwy, a Mr. O. M. Edwards, M.A., Rhydychain. Ei bris ydoedd chwe' cheiniog, a pharhaodd i ddyfod allan hyd Ebrill, 1891, pryd y rhoddwyd ef i fyny. Er rhoddi syniad am ei gynnwys, wele grynodeb, fel enghraipht, o'r rhifyn am Tachwedd, 1—90:—"Emynau Cymru, Englishmen's Questions, Caneuon Serch, Lady Gwen, Llenyddiaeth y Seiat, Aralliade, Political Notes," &c. Ymddengys na bu Cymru Fydd yn llwyddianus, a diau fod y ffaith mai dwyieithog ydoedd yn anfantais iddo, ac efallai fod ei bris yn ei erbyn, yn enwedig wrth gofio fod genym gynifer o gyfnodolion eraill ar y maes yn flaenorol, a chredwn fod llawer o'r Cymry darllengar yn teimlo, wrth ei ddarllen, ei fod i raddau yn cael ei nodweddu âg anaeddfedrwydd barn, tuedd at ddangos ffafriaeth at bersonau neillduol, a gogwydd at fod yn rhy annibynol ac anffaeledig. Nis gwyddom a ydoedd gwir achos dros y teimlad hwn—gall fod gwahaniaeth barn arno; ond, modd bynag, gwyddom mai pwysig iawn, wrth gychwyn cyhoeddiad o'r fath, ydyw bod yn eang, yn agored, yn barchus o'r hen lenorion Cymreig sydd wedi dal pwys a gwres y dydd, ac yn mhob modd i fod yn deg a boneddigaidd.

Credwn, er mwyn eglurder, mai mantais fyddai edrych ar hanes y Cylchgrawn Cymreig yn ei wahanol adranau: