Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

76 mlwydd oed, golygid hi yn ddifwlch gan y Parch. Roger Edwards, Wyddgrug; a dylid dyweyd. wrth fyned heibio, gan ein bod yn son am dano ef, ei fod wedi cyflawni gwasanaeth gwerthfawr, rhwng pobpeth, i lenyddiaeth Cymru, a chredwn y deil ei enw yn anwyl gan ei gyd-genedl tra y parheir i son am y wasg Gymreig. Darfu i Gymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd, wedi hyny, ddeisyf ar i'r Parchn. J. M. Jones, Caerdydd; N. Cynhafal Jones, D.D., Llanidloes; a J. Hughes, D.D., Caernarfon, ei golygu yn y cyfwng, hyd nes y pennodid golygydd rheolaidd. Y canlyniad a fu, ar ol cyd-ymgynghoriad, i'r Parch. Griffith Parry, D.D., Carno, gael ei bennodi i'w golygu, ac er Ionawr, 1887, hyd ddiwedd y flwyddyn 1892, efe ydoedd yn gweithredu; ac yn Ionawr, 1893, bydd y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., yn unol â phennodiad y Gymanfa Gyffredinol, yn dechreu ar ei waith fel golygydd iddi. Cyhoeddid ac argrephid hi, ar y dechreu, fel y sylwyd eisoes, gan y Parch. J. Parry, Caerlleon, ac wedi hyny argraphwyd hi gan Mr. T. Thomas, Eastgate-row, Caerlleon, ac yn ddilynol, yn y flwyddyn 1852, symudwyd hi i gael ei hargraphu, dros y cyfundeb, gan Mr. P. M. Evans, cyhoeddwr, Treffynnon, ac yno yr argrephir hi yn gyson o'r pryd hwnw hyd yn bresennol.

Trysorfa Efengylaidd, 1806.—Cychwynwyd y cyhoeddiad chwarterol hwn, yn y flwyddyn 1806. gan y Parch. Titus Lewis, Caerfyrddin. Ei brif ysgrifenwyr oeddynt y Parchn. Titus Lewis, Joseph Harries (Gomer), a Dafydd Saunders—yr oll yn weinidogion gyda'r Bedyddwyr. Nis gellir dyweyd iddo gael cefnogaeth y wlad, gan na ddaeth allan ond dau rifyn.

Yr Eurgrawn Wesleyaidd, 1809.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1809, gan y cyfundeb Wesleyaidd, ac y mae cysylltiad swyddogol wedi bod