Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhwng y cyfundeb hwnw o'r dechreuad âg ef, a chan y gweinidogion Wesleyaidd Cymreig y mae yr awdurdod i bennodi y golygwyr a'r argraphwyr. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw chwe' cheiniog. Bu gyrfa y cyhoeddiad hwn yn hynod symudol—yn cael ei symud i'w argraphu o'r naill fan i'r llall yn ol fel y bernid y byddai yn fwyaf manteisiol i'w ledaeniad. Bu cylchrediad Yr Eurgrawn yn "waradwyddus o isel" oddeutu amser ei symudiadau cyntaf, ond oddeutu y y blynyddoedd 1859-60 cododd yn dda, a gellir dyweyd, gyda llaw, fod y diwygiad crefyddol nerthol a brofodd ein gwlad yn y blynyddoedd hyny wedi bod yn fantais fawr i gylchrediad y misolion crefyddol. Yn Mhwyllgor y Llyfrfa, am y flwyddyn 1860, yr hwn a gynnwysai y Parchn. T. Jones, cadeirydd; H. Wilcox, ysgrifenydd; Lewis Jones, John Jones (trydydd), a Samuel Davies, golygydd a goruchwyliwr, penderfynwyd helaethu wyth tudalen yn fisol ar faintioli Yr Eurgrawn, yn cynnwys pedair tudalen o Hysbysiadau Cenhadol." Gyda golwg ar y diweddaf, teimlai y Pwyllgor y dylent ymgynghori â swyddogion y Tŷ Cenhadol Seisonig yn Lloegr, ac mewn atebiad derbyniasant yr hyn a ganlyn :-

"Wesleyan Mission House,
Bishop'sgate-street Within,
London, Oct. 16th, 1861.

MY DEAR SIR,—With respect to the resolution of your District proposing the publication of four pages of Missionary Notices in the Welsh language by you, the Committee look with favour on the proposal, but we wish to ascertain the probable cost. Can you say how many you propose to print, and what the cost will be? Of course a rough estimate is all we desire. We think the scheme is a good one, and calculated to be very useful.

I am, my dear sir,
Yours very affectionate,
W. B. BOYCE."

Rev. Samuel Davies.