Tudalen:Llenyddiaeth y Cymry - llawlyfr i efrydwyr.djvu/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

CYHOEDDWYD yr ysgrifau hyn o fis i fis yn Y Faner y llynedd. Amcanwyd ynddynt roddi golwg gryno ar gynnwys llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod dan sylw, ac awgrymu i'r darllenydd pa fodd i astudio'r pwnc yn fanylach nag y gellid gwneuthur hynny mewn cyn lleied o le â hyn. Er mwyn darllenwyr heb lawer o gyfleusterau, ceisiwyd egluro dyfyniadau trwy ddodi geiriau cyffredin mewn bachau ar ôl y geiriau mwyaf anghynefin. Lle teimlid nad oedd hynny yn ddigon, ychwanegir yn awr nodiadau ar y diwedd. Hyderir y bydd cymaint ag y sydd yma, drwy'r naill ddull a'r llall, yn weddol ddealladwy i bob darllenydd.

T. GWYNN JONES.

ABERYSTWYTH,

Dydd Mawrth Ynyd, 1915.