Tudalen:Llenyddiaeth y Cymry - llawlyfr i efrydwyr.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llenyddiaeth y Cymry.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~

I.—Y CYNFEIRDD.

Pan ddown gyntaf, rywbryd rhwng 597 a 613 o Oed Crist, ar draws hanes credadwy am y bobl a'u galwodd eu hunain yn Gymry, cawn mai ymladd yr onddynt. Ymladd am eu hoedl y buont o hynny hyd heddyw, ond nid â'r un arfau o hyd. Yr oedd Cymru'n fwy yr adeg honno nag ydyw heddyw. Yn 597, torrwyd rhyngddi â Chernyw; yn 613, gwahanwyd rhyngddi âg Ystrad Clwyd. Ond ar ei mwyaf, nid oedd Cymru'n fawr, na'i phobl yn lluosog iawn, ac y mae'n rhyfedd fod gwlad mor fechan wedi cadw ei hiaith briod a'i llenyddiaeth gysefin o gwbl, ag ystyried y nerthoedd a fu yn ei herbyn. Pe na bae ond hynny i'w ddywedyd am dani, byddai Llenyddiaeth y Cymry yn ddigon dyddorol i'w hastudio. Pobl gymysg, yn ddiau, oedd y Cymry. Gwyr o'r un fro, nid o'r un waed, oedd ystyr yr enw a gymerasant. Ond yr oedd eu hiaith a'u budd yn eu huno. Gan y sonnir yng nghorff yr ysgrifau hyn am lenyddiaeth ieithoedd sy'n perthyn i'r Gymraeg, buddiol fyddai deall ar y cychwyn beth a ddywed ieithyddion am eu perthynas â'i gilydd. Ryw fil o flynyddoedd cyn Crist, ceir dechreuad hanes ieithoedd neilltuol yn y darn daear sy rhwng Hindwstan yn y dwyrain a glannau'r Atlantig yn y gorllewin, rhwng Scandinafia yn y gogledd a'r Mor Canoldir yn y de. Am fod cynifer peth yn gyffredin i'r ieithoedd hyn, gwelwyd, trwy ieitheg gymharol, eu bod yn tarddu o un fam iaith, a leferid gynt. Indo-Ewropäeg honno. Tyfodd yn ei thro yn lliaws o dafod-ieithoedd. aidd a Cheltaidd i'w gilydd. O'r twr Eidalaidd, Lladin oedd y bennaf a'r bwysicaf. O'r rhai Celtaidd, gwyddis y geilw ieithyddion Tebygai y rhai Eidal- am dair tafodiaith; sef, (1) hen iaith Gâl, nad oes ond enwau priod ac ambell argraff ar gerryg i'w cael o honi bellach; (2) yr Wyddeleg, sydd eto'n fyw yn Iwerddon, Scotland ac Ynys Fanaw; (3) y Frythoneg, hen iaith Ynys Brydain, a droes, hithau, yn dair adiaith, (a) y Gymraeg, (b) y Gernyweg, a fu farw yn y ddeunawfed ganrif; (c) y Llydaweg, sydd eto'n fyw. [Introduction a l'étude comparative des Langues Indo-Européennes. A. Meillet. Paris 1912]

Dengys y gosodiadau hyn y cyfoeth dirfawr o draddodiad y gallai fod gwraidd llenyddiaeth Geltaidd yn cyrraedd iddo, ac nid oes amheuaeth na cheir yn yr Wyddeleg, y Gymraeg a'r Llydaweg adlais hen goelion oedd gyffredin i'r Gwyddyl a'r Brythoniaid ymhell cyn eu gwahanu a dieithro eu lleferydd. Ond mewn ystraeon nad ysgrifennwyd hyd yn ddiweddar y ceir pethau felly. Trwy ddyfod y Rhufeiniaid i Brydain, gwthiwyd Lladin ar y Brythoniaid, ac yn Lladin y mae'r argraffau cynharaf ar feini a gaed yn y wlad hon. Yna daeth Lladin yn iaith crefydd a dysg, a thrwy hynny daeth dylanwad llenyddiaeth y Rhufeiniaid i mewn. Felly, ar ddechreu llenyddiaeth y Cymry, yr ydym wyneb yn wyneb a dau ddylanwad—dylanwad traddodiad Celtaidd, ac effaith diwylliant Lladinaidd; ac y mae llawer o bethau cynharaf eu llenyddiaeth yn Lladin. Yn Lladin yr ysgrifennodd Gildas a Nennius; yn yr iaith honno y mae'r copi cynharaf sy'n hysbys o gyfreithiau Hywel Dda; yn Lladin yr ysgrifennodd Sieffre o Fynwy ei Frut, yn 1145, ac yn yr un iaith yr ysgrifennodd Gerallt Gymro a Walter Map tua'r un oes.

Fel hanes y gosododd Sieffre ei waith allan, gan ddywedyd mai cyfieithad o'r