"O gangen derwen mae'n dod-yn lân wy,
A del nyth i'w gwarchod;
Tlws ei gwedd, mae'n ddestlus god
A choeden yn ei cheudod."
Ni ellir amau nad yr Englynion a wnâi'r bardd nid er gwobr yw ei oreuon. Ymhlith y rhai hynny, daw mwy o ffansi i'r golwg, megis yn hwn, i "Hen Fwthyn":
"Gwnaed ei raen fel maen mynor-â golchiad
Y galchen anhepgor;
Fel eira nefol oror,
Fel oen Mai, fel ewyn môr."
Gellid dyfynnu llawer enghraifft, ond digoned un neu ddwy o'r casgliad helaeth.
Y MOR
"Fel enaid blin aflonydd-wedi brad
Yw, â'i brudd ru beunydd;
A dawnsia'i don nos a dydd,
Ni all huno yn llonydd.
Eto, i'r Gwymon":-
Rhywogaeth o dw'r eigion-yn addurn
Iddo, ydyw'r Gwymon;
A'i hirwallt du ar wyllt don
Yn llywethau main lleithion."
Pryd bynnag y cano efe i'r môr,ceir y ffansi hon ganddo, I'r Ddyfrgloch." -
"Y ddyfrgloch hardd dardd o'r don-lafoerog
Neu lifeiriant afon;
Un gron, gau, a brau lun bron,
A chwaer drych yw ar drochion."
neu eto i "Ewyn y Don:-
"Lliw angel o gylch llongau,-lluwch y môr
Ddaw'n llwch man i'r glarnau ;
A dannedd enbyd dennau.
O ryw bell gefnfor a bau."