Ceir yma hefyd gasgliad o "Gwpledau" cynnil, arabedd diarhebwr, teilwng o waith y penceirddiaid gynt, pethau a barodd i un ohonynt (Edmund Prys) ddywedyd-
"Profais, ni fethais, yn faith,
O brif ieithoedd, brawf wythiaith,
Ni phrofais dan ffurfafen
Gwe mor gaeth, Gymraeg wen."
Gwych fyddai gan yr hen uchelwr wybod bod ym Meirion hyd heddiw rai a ŵyr we'r "Gymraeg wen.
Y mae dychan IOAN BROTHEN bob amser yn gynnil ac yn rhywiog a hael ei naws, gwaith gŵr a welai'r gwendid heb gasâu'r gwan. Dyd ef ei hun yn y bwndel hefyd yn aml.
TI - A MINNAU.
"'Rwyt ti, waeth sut bo'r tywydd,-yn huno.
Hyd hanner boreddydd;
'Rwyf innau fel iâr fynydd
Yn godwr da gyda'r dydd!"
BLAEN AC OL.
"Un digoll, hywaith hollol-yw ymlaen
Trwm lwyth â'n êgniol;
Yn y bôn mae'n unbennol,
A rhyw ddydd, fe drydd y drol. "
PAWB OHONOM.
"Daliwn ar draed a dwylaw,-awn rhagom
Dros greigiau anhylaw
O dir isel di-roesaw-
Bai dyn yw bod yn y baw."
Ni welais un englyn llechwraidd yn yr holl gasgliad.
Dengys ymryson y "Llo Tew" yr un naws, a'r breg-
eddu afieithus a fyddai mor gyffredin ac mor debyg yn
nhraddodiad y Cymru a'r Gwyddyl gynt. Yn wir, ym-
hlith yr epigramyddion Cymreig, saif IOAN BROTHEN
ar ei ben ei hun o ran urddas, chwaeth dda ac unplyg
rwydd bryd, oblegid diddordeb eang a dynoliaeth
rywiog.
T.G.J.
23: iv: '42.