Gyda Gwen 'rwy'n ddibennyd,
Gwna hon fi'n galon i gyd,
A'm cân yn rhedeg i'm cof
Yn winaidd awen ynof.
Tybed fod Dafydd ap Gwilym erioed wedi teimlo serch mor angerddol ag ef? Druan o Ddafydd, â'i liaws cariadau! Ei Ddyddgu lygatddu a'i Forfudd wallt aur, beth fu eu diwedd oll? Tybed iddynt fodoli mewn cnawd? Tebycach mai creadigaethau crebwyll Dafydd oeddynt. Ni chanodd neb erioed a ŵyr beth yw caru gân serch; gŵyr mai ynfydrwydd yw chwilio am eiriau i lefaru'r peth dwyfolaf yn holl natur dyn. Y gŵr sydd wedi breuddwydio am serch, a heb ei wir brofi, sy'n canu cerddi serch; callach a doethach na hynny yw'r neb a'i profodd. Ond Llio, Llio:
Llio eurwallt, lliw arian,
Llewych mellt ar y lluwch mân.
Ardderchog, hefyd, yr hen Ddafydd Nanmor! A bardd yn y cymydau hyn oeddit ti. Tybed fod dy Lio eurwallt di hanner mor swynol a hardd â'm Llio i? Pa un bynnag am hynny, os oeddit yn ei charu, ti gredet ei bod.
Dyma'r pethau a redai yn ei feddwl fel y troediai'r ffordd unig yn y nos i gyfeiriad y bwthyn lle'r arhosai Morgan. Llawen iawn fu gan hwnnw ei weled, a chroesaw mawr iddo'n ôl. Gwrandawodd hefyd yn ofalus iawn ar ei newyddion.
"Hen feddyg diguro ydyw cariad," ebr y peintiwr.
"Mae-hi'n dechrau teimlo cywilydd genethaidd am iddi yn ei gorffwylltra ei bwrw ei hun i'ch breichiau. Gadwch imi fynd yn ôl hefo-chi nos yfory, Ivor."