Gwasgai Ivor ei ddannedd ynghyd, a thynhâi ei wefusau; âi ei wyneb hefyd yn welwach fel y gwrandawai'r hanes.
"Un noson," chwanegodd hi, "tua hanner nos, mi glywais sŵn troed tu allan i 'nrws-i. Wn-i ddim sut y cefais-i wroldeb i'w agor, ond mi wnes; a phan edrychais-i allan, mi welwn Crutch yn ymlwybro drwy'r fynedfa, â llusern yn i law. Wn-i ddim be cymhellodd-fi i'w ganlyn-o, achos yr oedd dirfawr ofn arna-i, ond hefyd roedd rhywbeth yn 'y ngyrru-i ar i ôl-o. Mi gerddais yn ysgafn tu ôl iddo, er 'y mod-i'n crynu gan ofn. Mi aeth yn i flaen drwy'r fynedfa, ag ar hyd llawer o ffyrdd troellog, nes cyrraedd ochor arall y tŷ; yna tynnodd agoriad o'i fynwes, datododd y llinyn oddi arno, ag mi agorodd ddrws ystafell eang. Ystafell ddi- ddodrefn oedd-hi, ag yr oedd y ffenestri'n uchel, ag wedi i cuddio'n ofalus. Roeddwn-i'n i wylio-fo o'r drws. Mi dynnodd gyllell fawr o'i logell, ag wedi pen-linio, mi gododd ddwy ystyllen hir yng nghanol yr ystafell. O! Ivor!"
"Ewch ymlaen," eb Ivor, a'i eiriau cras yn ei dagu.
"Ewch ymlaen."
Rhedai iasau arswyd trosti hithau, a chrynai fel deilen; lwyted oedd ei hwyneb ag wyneb corff, a dychryn yn llenwi ei llygaid mawrion, fel y chwanegai: Plygodd Crutch dros y twll, ag mi clywais-i-o'n murmur rhwng i ddannedd, 'Mi'ch lleddais chi, do, â'm llaw fy hun; mi'ch cerais yn angerddol, ag am hynny mi'ch llofruddiais-chi.' Mi anghofiais i bob peryg i mi fy hun. Mi ruthrais ymlaen yn sydyn at i ochor-o, ag mi edrychais i lawr. Be oedd yno ond bedd.