"Mab Georgette Prys ydw i," eb ef yn floesg. "Mi ddois drosodd i Brydain i ddial i gwaed-hi. Mi ddois i'r tŷ yma i weld i bedd-hi. Llio, dangoswch-o imi."
Glynai'r geiriau y ceisiai'r eneth eu llefaru yn ei gwddf, ac ni allai namyn syllu arno, a holl gariad ei chalon tuag ato, a'i chydymdeimlad â'i ing chwerw, yn ei llygaid. Dododd ei dwylaw yn ei ddwylaw ef, ac yn chwerwder y foment anghofiodd y pethau a barasai iddi gilio oddi wrtho. Gwasgodd yntau ei bysedd meinion, telaid, yn ei eiddo ei hun, ac ymgrymodd a chusanodd hwy'n barchus.
"Arweiniwch fi at i bedd-hi, Llio," eb ef eilwaith.
"Fedra-i ddim, Ivor; ganddo fo mae agoriad yr ystafell, ag mae'r drws yn gry, allech-chi mo'i wthio-fo i mewn."
"Mi fynna-i yr agoriad hwnnw," eb Ivor, "ond mi fynna-i i fywyd o yn gynta."
Ciliodd yr eneth mewn arswyd.
Wyddoch-chi be wnaeth Ryder Crutch, Llio? Mi feiddiodd ofyn i 'mam i briodi-o, yn union wedi marw 'y nhad. Am iddi wrthod, mi carcharodd-hi yn yr ystafell yna; ag un diwrnod, mi llofruddiodd-hi yno. Mi wna'-i iddo f'arwain-i i'r ystafell yna, ag agor y bedd; ag yna, wrth erchwyn bedd 'y mam mi saetha-i 'n farw."
Dialedd dychrynllyd oedd hyn, ond ni ddywedodd Llio air yn ei erbyn. Edrychodd i wyneb tywyll, gwelw Ivor, ac yn ei chalon teimlai mai cyfiawn oedd.
Gafaelodd yntau unwaith yn rhagor yn ei dwylaw, a chusanodd hwy. Yna aeth allan o'r ystafell, a cherddodd i bresenoldeb llofrudd ei fam.