ar ei glust, geiriau o arwyddocâd ofnadwy iddo ef, chwalwyd niwloedd y breci oddi ar feddwl yr adyn annedwydd. Ciliodd yn ôl mewn dychryn, a disgynnodd i'r gadair y codasai ohoni, a llef wyllt ac arswydlawn yn dianc dros ei wefusau gleision.
Arweiniwch fi at i bedd," ebr Bonnard, yn dawelach na chynt. "Ynfydrwydd ynoch fai ceisio dianc rhagof. Rydw-i'n gwybod yr hanes i gyd. Adferwyd i chof i Llio Wynn, ag mi ddwedodd yr holl wir hagr wrtha-i. Peidiwch â meiddio yngan gair; dowch hefo mi yn awr i'r ystafell lle mae llwch fy mam yn gorwedd."
Ofnadwy oedd yr effaith a gaffai ei eiriau ar y llofrudd. Fflachiai arswyd gwyllt yn ei lygaid; crynai ei ddwylaw fel crinddail Hydref, wrth geisio'n garbwl dynnu rhywbeth o'i logell.
"Dyma'r agoriad," eb ef, gan ei estyn â bysedd crynedig.
"Yn awr, dangoswch y ffordd imi," eb Ivor. "Ewch o 'mlaen-i; ag mi ddof innau ar ych ôl-chi."
Breision ac aml oedd dafnau chwys ing ar dalcen Crutch; curai ei liniau y naill wrth y llall pan geisiodd sefyll ar ei draed i ufuddhau i orchymyn dialydd y gwaed. Cydiodd mewn ffon gref, a chyda chymorth honno cychwynnodd i'w daith olaf ar y ddaear. Ar ei ôl cerddai Ivor, y lamp yn ei law chwith, a'i lawddryll llwythog yn ei law dde. Wedi cerdded ymlaen ychydig drwy'r fynedfa, safodd yr adyn, a throdd ei wyneb at Ivor:
"O, er mwyn Duw, arbedwch fi; rhowch 'y mywyd imi," dolefai yn druenus a llwfr.