ciliasai'r cysgodion duon oddi ar ei rudd, a golchasai ei ddagrau'r dicter erch o'i lygaid. Un wedd ar y newid a fu arno oedd bod y llen rhwng y ddau fywyd wedi ei theneuo, ac ni wybu mwy beth oedd ofni ymweliadau preswylwyr bro'r eang dangnef.
Gyda pharch serchog, addolgar yn llenwi ei galon y gosododd Ivor yr ystyllod ar y bedd yn ôl, ac y clodd ddrws yr ystafell. Teimlai ei ben yn mynd yn ysgafn, a'i goesau'n crynu dano, gan erchylled y profiadau a gawsai y noswaith hon. Gafaelodd yng nghorff Ryder Crutch, a llusgodd ef i ystafell wag gerllaw, a chaeodd y drws arno yno.
Wedyn, cychwynnodd yn ôl ar hyd y mynedfeydd hirion, a thrwy'r ystafelloedd, tua'r fan lle gadawsai Llio. Teimlai angen ei phresenoldeb yn ei ymyl yn fwy nag erioed. Gorweddai'r cof am yr awr ddiwaethaf yr aethai drwyddi fel hunllef arswydus ar ei ysbryd; ac anodd oedd ymysgwyd oddi wrthi. Gobeithiai y byddai i heulwen presenoldeb Llio ddwyn gwres bywyd yn ôl i'w galon, a'i helpu i anghofio'r ing yr aethai drwyddo. Ceisiodd brysuro ati; ond teimlai fod ei aelodau'n ystyfnig anufudd, ac ni fedrai namyn cerdded yn araf.
Neidiodd Llio ar ei thraed fel yr agorai'r drws ac y deuai Ivor i mewn. Ni allai lai na dychryn wrth weled y wedd angheuol welw a oedd ar ei wyneb. Yr oedd ei wefusau'n sych, a'i lygaid yn gochion. Wedi dyfod i mewn, ymollyngodd yn ddiymadferth i gadair gerllaw. Aeth Llio ato'n dyner a serchog, ac eisteddodd ar lawr wrth ei draed. Dododd yntau ei fraich am ei hysgwyddau lluniaidd, a gwasgodd hi ato.
Yr oedd yn rhy fuan i siarad eto. Ac ni ddywedodd