sefydlodd hwy ar Ivor am foment; ond yn y foment honno darllenodd ef ynddynt gyfrinach ei chalon.
"Llio anwylaf," eb ef, "cyn gynted ag y daw'r nos, fe adawn-ni'r fangre felltigaid yma am byth. A chyn pen wythnos wedi hynny, mi fyddwch chi yn wraig i mi."
"Yn wraig ichi, Ivor, cyn pen yr wythnos? O, Ivor, prin y medra-i gredu bod y fath hapusrwydd yn bosib imi."
"Mae-hi'n fwy anodd imi gredu y ca' i ran ohono, Llio fach. A phetasai nghyfaill, Gwynn Morgan, wedi meiddio awgrymu'r fath beth cyn imi ych gweld-chi, mi fuaswn i'n ddig wrtho am gellwair. O Dduw, dydw-i ddim yn deilwng o hyn. Ond rydech-chi'n amddifad a diamddiffyn, ag yn unig yn y byd; rydw innau'n unig ag amddifad; ond mi feder serch beri imi anghofio'r gorffennol. Mi ga' innau ych amddiffyn-chi, a'ch noddi-chi, unwaith y byddwch-chi'n wraig imi. A fedra-i ddim gwneud hynny'n hir heb inni briodi. Felly, Llio fach, peidiwch â digio am 'y mod-i'n rhoi rhybudd mor fyr ichi."
"Does arna-i ddim eisio dim, Ivor, ond bod hefo chi."
Ar ôl hyn eisteddodd y ddau yn berffaith lonydd am amser maith, heb yngan gair y naill wrth y llall. Llawnion iawn oedd eu meddyliau, a diau bod eu myfyrdodau'n felys. Un peth a ymddangosai'n gryn anhawster i Ivor oedd sut i fyned â Llio ymaith, ac ymha le i'w gadael am ychydig ddyddiau. Ni welai y gallai wneud dim amgenach na'i harwain dan len y nos ar draws y wlad i'r bwthyn, ac yna oddi yno i'r gwesty