lle y buont yn aros cyn cymryd Hafod Unnos. Rhaid oedd dyfeisio rhyw stori i esbonio sut y daethai Llio yno. Ac ni fedrai feddwl am anwiredd mwy diniwed, a nes i'r gwir, na dweud mai geneth amddifad ydoedd, ei fod ef yn warcheidwad iddi, a'u bod i briodi cyn pen yr wythnos.
Cofiodd Llio cyn hir fod yn rhaid bod Ivor yn newynog. Ni feddyliai hi am ymborth iddi ei hun. Ond cododd ar unwaith i baratoi pryd o fwyd. Esboniodd yntau mai dyma'r pryd olaf a fwytaent byth ym Mhlas y Nos, a bod ganddynt daith bell o'u blaen. "Felly," meddai, "rhaid inni gymryd y pryd mwya sylweddol mae'r storfa'n i ganiatáu.
Daethai Ivor â danteithion amryw gydag ef o Hafod Unnos. Sylwasai Gwynn Morgan ar hynny pan ydoedd yn cychwyn, a meddyliasai fod serch yn gwneud Ivor yn fwy naturiol ac ymarferol na chynt.
Nid oes awdurdod dan haul hafal i'r Ffrancwr ar unrhyw bwnc ynglŷn â choginiaeth; ac er mai hanner Ffrancwr oedd Ivor ar ei orau, casglasai mewn ugain mlynedd o fywyd yn Ffrainc lawer o wybodaeth ynghylch y dirgelion hyn. Tynnodd allan o'i drysorau dameidiau blasus, a huliodd Llio'r bwrdd yn chwaethus a glân.
Eisteddodd Llio ac Ivor wrth yr hen fwrdd derw bregus yn ŵr ac yn wraig, oblegid gwyddai'r ddau fod serch wedi eu priodi eisoes. Mwynhasant yr ymborth, er gwaethaf digwyddiadau cyffrous y diwrnod. Erbyn iddynt orffen, yr oedd llen dywyll y nos dros y wlad, a'r amser i adael yr hen adfail erchyll wedi dyfod. Casgl-