15
DEDWYDDWCH
CERDDODD Ivor a Llio law yn llaw drwy'r goedwig nes cyrraedd y llwybr a gymerai Ivor yn ei deithiau hwyrol i Blas y Nos. Nid hawdd dychmygu, chwaethach disgrifio, eu teimladau ar eu taith gyntaf gyda'i gilydd. Er bod y ddau yn hen gariadon erbyn hyn, dyma eu taith gyntaf. Rhodient fraich ym mraich pan ganiatâi'r ffordd, a llaw yn llaw bryd arall. Cofiodd Ivor nad oedd Llio wedi arfer cerdded fawr, ac y byddai'r daith oherwydd hynny yn gryn dreth ar ei nerth. Felly, cerddai'n araf iawn. Doeth oedd cerdded yn araf hefyd am fod y llwybr mor anodd a dyrys; ac yn y nos hawdd iawn oedd baglu a chwympo arno.
Yr oedd Llio mor llawen nes arswydo ohoni ar adegau rhag mai un o'i breuddwydion gorffwyllog gynt oedd y cyfan. Pan fflachiai hynny i'w meddwl, gafaelai'n dynnach ym mraich, neu yn llaw, Ivor; ac er na wyddai ef paham y gwnâi hynny, gwyddai'n dda fod y weithred yn llawn serchowgrwydd a dibyniad arno ef. Cynyddai llawenydd a dedwyddwch Llio wrth weled gryfed oedd gewynnau Ivor; a theimlai yn ddiogel iawn dan ei ofal serchog. Iddo yntau yr oedd ei phresenoldeb hithau, ei diniweidrwydd, a'i hymddiried ynddo, yn llenwi ei fywyd â swyn newydd. Wedi teithio am oddeutu awr, teimlodd Ivor fod camau Llio'n myned yn fyrrach, fyrrach, a'i phwysau ar ei