fraich yn myned yn drymach, drymach; a phan ddaeth- ant at faen mawr ger eu llwybr garw, arhosodd a gwnaeth iddi eistedd i orffwyso. Pwysai'r eneth flinedig â'i phen euraid ar ei ysgwydd, ac ebr hi: Ivor, ydech-chi wedi penderfynu be i'w wneud nesa?"
"Ond priodi, Llio fach," atebodd yntau. "Wel, ie, Ivor; ond mae 'na bethau eraill hefyd. Mae gennym-ni ddyletswyddau i bobol eraill heblaw ni yn hunain. O, Ivor, be ddywed Mr Morgan pan wêl-o ni wedi dwad i Hafod Unnos?"
"Wel, wn-i ddim be ddywed Gwynn; ond mi ellwch-chi fod yn siŵr y bydd-o'n falch iawn o'n gweld-ni."
"Wn-i ddim, wir, Ivor; ddaru-chi ddim meddwl y gall-o deimlo mod-i'n ych dwyn-chi oddi arno-fo?"
"Dim o'r fath beth, Llio; rŵan, fuasai neb ond geneth yn meddwl am beth fel yna," a chwarddodd Ivor yn iachach a mwy calonnog nag y gwnaethai ers amser.
"Wedyn, Ivor, dyna bethau eraill," ebr Llio, a rhedodd ias o arswyd trosti fel yr ymwasgai'n nes i Ivor. "Cofiwch, Ivor, yn bod-ni wedi gadael y ddau yn yr hen blas hefo'i gilydd heno."
Teimlodd y dyn ieuanc ias o'r hen oerni llidiog oddeutu ei galon, fel y disgynnai'r geiriau ar ei glyw. Ond buan, yng nghwmni Llio, y diffannodd y cwbl.
"Rydw i wedi cynllunio be i'w neud, Llio fach. I ddechrau, rhaid inni briodi, i'w gwneud-hi'n amhosib i bobol hel straeon yn yn cylch-ni. Yna, mi ofala-i am gludo gweddillion 'y mam oddi yno, ag mi cladda-i hi