afael ynddo, a'i symud ymaith. Pan gyraeddasant i ymyl yr hen blas, gwelent fwg yn codi o'r coed, ac erbyn cyrraedd i'w olwg, nid oedd yno ond adfeilion llosgedig. Pa fodd yr aeth y lle ar dân, nid oes heb hyd heddiw a ŵyr. Teimlai pobl yr ardal yn esmwythach wrth feddwl bod y fflam wedi ei ddileu oddi ar wyneb y ddaear. Ond cred yr ardalwyr syml hyd heddiw fod ysbryd Ryder Crutch yn cyniwair y lle, yn chwilio am orffwystra, ac yn methu a'i gael. Aeth Huw Rymbol yno, wedi clywed am y tân, ac wrth ei fod yn bur fusgrell, daliodd y nos ef ar y ffordd yn ôl, a thyngai'r hen ŵr gwargam fod rhyw furmur cwynfanus drwy frigau'r coed, fel griddfanau ysbryd mewn pangfeydd, yn ei ganlyn nes iddo ddyfod drachefn "i fysg pobol". Nid yw Mr Edwards, Gwesty'r Llew Coch, wedi ei lwyr argyhoeddi beth i'w gredu'n derfynol ynghylch stori Huw, ond diogel dweud na chymerai goron Prydain am fentro ei hunan i gymdogaeth yr hen adfeilion wedi nos.
Wedi bod am rai wythnosau gartref gyda'i deulu aeth Gwynn Morgan i Dde Iwerddon. Yr oedd yn aro: yn Killarney deg, un o'r llennyrch harddaf ar wyneb y ddaear. Yno y cyfarfu drachefn ag Ivor a Llio. Synnai mor ieuanc oedd Ivor, a gruddiau Llio wedi ennill gwrid iechyd wrth deithio.
Ym mharlwr y gwesty y noson honno, wedi i Llio ymneilltuo i'w hystafell, dechreuodd y ddau gyfaill ymddiddan.
"Mae'n dda gen i gael cyfle i ddeud rhywbeth wrthoch-chi, Ivor, nad oeddwn-i ddim yn meddwl y buasai'n ddoeth i ddeud-o yng nghlyw Llio. Pan eis-i i