chwerwder einioes y gwallt du yn wyn fwy nag unwaith. Beth yw gofid cudd y dyn ieuanc? Ai tybed y daw i'r golau cyn y collwn olwg arno rhwng tonnau amser? Ivor Bonnard ydyw'r enw a roddes ar lyfr y gwesty.
Nid oes ronyn o debygrwydd iddo yn ei gydymaith. Saif ef yn ddwylath o daldra, â dau lygad glas llawen, a gwallt golau modrwyog ar ei dalcen uchel ac onest. Amlwg yw ei fod wedi datblygu ei gyhyrau mewn ysgol a choleg. Nerthol a grymus ydyw pob migwrn ac asgwrn o'i gorff. Mab ac etifedd ydyw ef i un o hen deuluoedd parchusaf Cymru, Cymro o'r Cymry. Adwaenid ei dad fel Cymro cyfoethog llwyddiannus mewn byd ac eglwys, fel Rhyddfrydwr ac Aelod Senedd, un o'r Cymry trwyadl cyntaf i wneud enw iddynt eu hunain yn Senedd Prydain, un o'r ychydig a osododd i lawr sylfeini cedyrn Cymru Fydd. Gwynn Morgan ydyw enw ei fab. Cafodd bob mantais y gallai arian ei sicrhau mewn ysgol a choleg, a thyfodd yn feistr pob mabol gamp, ac yn ysgolhaig gwych. Daeth adref o Rydychen wedi ennill anrhydedd gradd y Brifysgol, a rhwyfo ei chwch i fuddugoliaeth yn erbyn Caergrawnt. Yr oedd hynny flwyddyn yn ôl bellach; wedyn bu'n teithio'r byd i orffen ei gwrs addysg; aethai oddi amgylch wrth ei bwysau, gan aros a dysgu a sylwi ymhobman. Rhyw bum mis yn ôl, ac ef ar y pryd ym Mharis wych, y dref harddaf a llonnaf ar wyneb y ddaear, damweiniodd iddo gyfarfod ag Ivor Bonnard, Ffrancwr coeth ei feddwl a difrif ei wyneb, hyddysg mewn lliaws o ieithoedd, a'u llenyddiaeth. Nid hir y bu'r ddau cyn dyfod yn gyfeillion mawr. Un diwrnod,