Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/130

Gwirwyd y dudalen hon

Blas y Nos hefo'r swyddog, mi gawsom y lle wedi i losgi'n adfeilion moelion."

Bu Ivor yn ddistaw am ennyd, mewn dwfn fyfyrdod. Gwelodd Gwynn beth o'r hen brudd-der wedi dyfod yn ôl i'w lygaid, a rhai o'r hen linellau poenus eto ar ei ruddiau. Wedi eistedd felly am rai munudau, torrodd Ivor ar y distawrwydd.

"Gorau oll, Gwynn," eb ef. "Allai dim byd ond tân buro awyr fel honno. Ag er cymaint oedd fy Hid-i at Ryder Crutch unwaith, mi alla-i heno ddymuno o nghalon iddo heddwch bellach. Caled ydi ffordd y troseddwr bob amser; ond ŵyr neb pa mor galed ydi-hi ond y sawl a welodd lofrudd wyneb yn wyneb ag angau."

Nid oes fawr yn chwaneg i'w ddweud am Ivor a Llio. Nid oes i ddedwyddwch hanes. Llwyddodd Ivor i ennill yn ôl rannau helaeth o eiddo Llio, a'r holl ystâd a berthynai i'w dad gynt. Ymfodlonodd i fyw gartref ymhlith ei gymdogion, yn annwyl ac yn fawr ei barch gan bawb. Gwahoddwyd Gwynn Morgan cyn hir i aros gyda hwy; ac amcan arbennig ei daith atynt y tro hwn oedd bod yn dad bedydd i Gwynn ab Ivor.

Dyfnhau a wnaeth cariad Gwynn Morgan at ei liwau; cyffredin a materol oedd ei ddarluniau cyntaf, ond yn hir synnodd y byd gerbron ei ddarlun enwog cyntaf "Wedi'r Nos." Hen adfail brudd ydoedd, adfail hen blas a losgasid â thân; y tu draw iddo gwelid gwrid gogoneddus y wawr yn addo diwrnod teg; ar lannerch las o'i flaen safai gŵr a gwraig ieuanc, a bachgen bach yn chwarae o'u deutu. Ond nodwedd arbennig y darlun ydoedd y gyfriniaeth ddieithr a wnâi'r cyfan yn