synnodd Gwynn Morgan ddeall bod y Ffrancwr prudd breuddwydiol yn medru Cymraeg gweddol, er nad cywir treigliadau ei gytseiniaid bob tro. Tynhaodd hyn gadwynau eu cyfeillgarwch, ac ar wahoddiad Morgan addawodd Bonnard ymweled â Chymru yn ei gwmni. Ni buont ynghyd yn hir cyn i'r Cymro ddweud ei holl hanes syml wrth y Ffrancwr; ond, er na sylwasai ar hynny, rhyfedd cyn lleied a wyddai ef o hanes y gŵr tywyll, trist, a deithiai yn ei gwmni tua bryniau gwlad ei enedigaeth. Er hynny, diffuant oedd eu cyfeillgarwch, a chryf eu serch y naill at y llall. Pe gofynasid i Gwynn Morgan paham y daethent i Ddyffryn Llifon, nid hawdd fuasai iddo ateb; hwyrach y dywedasai mai damwain a'i harweiniodd yno. Ond ni fu raid iddo fyw lawer yn hwy cyn gweled cyn lleied a wnaethai damwain i drefnu'r daith hon.
Trown yn ôl bellach at y ddau deithiwr yn y gwesty, a chawn y cinio drosodd, a'r Cymro ieuanc cyfoethog wedi erchi cigars gorau'r tŷ, a gwahodd Mr Edwards i ymuno ag ef yn eu hysmygu. Nid ysmygai Bonnard yn union wedi cinio, a sylwasai'r gwestywr na wnaethai fwy na phrin gyffwrdd y danteithion o'i flaen. Yn fuan, syrthiodd Bonnard i ryw fath o synfyfyrdod breuddwydiol; syllai yn hir i'r tân, heb symud na llaw na throed. Ond nid felly Morgan; ym mwg y myglys rhyddhawyd tafod y ddau, ac yr oeddynt yn fuan yn trin golygfeydd y gymdogaeth.
"Oes bosib mynd oddi yma i Feddgelert, heblaw hefo'r trên?" holai Morgan.
"Oes, siŵr," atebodd Mr Edwards, gan ymsythu yn ei gadair freichiau; " mi ellwch fynd yno ar ych union