"Maddeuwch imi am fynd ar ych traws-chi, ewch ymlaen," meddai Gwynn.
"Wel, mi glywais ddeud bod y stad yn perthyn erstalwm i Wyniaid Gwydir. Ond dwn-i ddim sut yr aeth-hi o'i dwylo-nhw. Mi glywais 'y nhaid yn deud bod rhyw Mr Ramsden yn byw yno pan oedd i dad o'n fachgen bach, a chreadur ofnadwy oedd hwnnw. Mi roedd-o'n perthyn i ryw glwb yn Llundain, ' Clwb Uffarn Dân' y bydden-nhw'n i alw-fo, ag yn y fan honno y bydda-fo lawer iawn o'i amser. Ond at ddiwedd y flwyddyn mi fyddai'n dwad i Gymru i saethu, a lot ofnadwy o'i gymdeithion annuwiol hefo fo. Roedden-nhw'n swel anarferol, ond 'doedd waeth ganddyn-nhw ladd dyn mwy na saethu petrisen. Feiddiai yr un ferch fynd allan o'r tŷ ar i phen i hun tra bydden-nhw hyd y fan yma. Ond ryw ddiwrnod mi gafwyd yr hen Ramsden wedi'i fwrdro-rhywun wedi rhedeg i gleddau trwy i galon.-o, ag yntau wedi marw ar y parc. Ag erbyn mynd at y tŷ, roedd y lle wedi'i gloi i fyny, a'i adael. Dw-i'n meddwl mai dyma pryd y dechreuodd y lle gael enw drwg. Mi fyddai pobol yn tyngu bod ysbryd Ramsden yn cerdded, ag mi welodd cefnder i dad 'y nhaid yr ysbryd yn sefyll dan gysgod coeden yn ymyl 'giât y parc, a chleddau yn i galon! Ag mi fuo'r lle'n wag am flynyddoedd ar ôl hynny. Wedyn, mi ddoth hen greadur digri iawn yr olwg arno o Lundain yno i fyw, ond mi gafodd i ddychryn gymaint yno cyn pen deufis ar ôl dwad, fel y gleuodd-o-hi yn i ôl gynted gallai-fo, ag mi glywais ddeud na fuo fawr o lewyrch arno-fo byth wedyn, a'i fod-o wedi marw'n fuan iawn. Mi fuo r hen dŷ yn wag wedyn am