rai blynyddoedd, ond mi ddoth yno ddyn canol oed i fyw, ag mi fuo yno am rai misoedd i hunan. Wedi hynny, mi gwelwyd-o yn cerdded ar hyd y parc, a dau ddyn bach, melyn, fel Indiaid, yn cerdded ar i ôl-o. A dyna'r olwg olaf gafodd neb arno'n fyw. Mi ddiflannodd i rywle, a'r dynion melyn hefo-fo. Mae rhai'n tyngu hyd heddiw mai cael i fwrdro ddaru-o, ag mae hen wraig o'r enw Nanni Wiliam y Sgubau yn tyngu i bod-hi wedi gweld i ysbryd-o, pan oedd-hi'n eneth ifanc ag wedi mynd ar draws y parc yn y nos i fyrhau'r ffordd adre—mi gwelodd-o, meddai hi, ar i hyd ar lawr yn y gwelltglas, a'r ddau ddyn melyn yn i dynnu oddi wrth i gilydd, ag yntau yn sgrechian yn ofnadwy. Ond stori Nanni Wiliam ydi honna, a dydw i ddim yn i choelio-hi fy hun."
Ond er gwaethaf yr haeriad hwn, yr oedd wyneb Mr Edwards dipyn yn welwach nag arfer, ac ar yr esgus fod siarad cymaint yn sychu ei wddf, estynnodd ei law at lestraid o win; llyncodd ef ar frys, a Gwynn Morgan yn cil-wenu, ac yn tanio myglysen arall wrth ei wylio. "Be fu wedyn?" gofynnodd Morgan.
"Mi fuo'r lle'n wag am amser, a doedd neb yn meddwl yr âi undyn yno i fyw wedyn, ag y gadewid y lle i ddadfeilio. Ond er syndod i bawb, mi ddoth dynion diarth o Loegr i'r ardal i atgyweirio'r hen blas. Ond fuo-nhw ddim yno fwy na phythefnos. Ag wedyn mi ddoth gŵr bynheddig o'r enw Mr Lucas Prys yno i fyw. Roedd hynny tua phum mlynedd ar hugain yn ôl. Dyn hollol ddiarth i bawb oedd y gŵr bynheddig yma, ond roedden-nhw'n deud i fod-o o deulu uchel, ag yn gyfoethog iawn. Roedd ganddo-fo wraig, dynes o un