tynnodd y bibell o'i enau, a daliodd hi o'i flaen, a bys cyntaf ei law dde yn fodrwy dros ei choes.
"Ond i orffen y stori," meddai, "fu Mr Lucas Prys a'i deulu ddim llawn blwyddyn yn y Plas cyn i bethau rhyfedd ddechrau digwydd. I ddechrau, mi fu Mr Prys i hun farw yn hollol sydyn ag annisgwyliadwy. Dydw-i ddim yn gwybod i fod-o wedi cael cam o fath yn y byd, ond roedden-nhw'n awgrymu pob math o bethau ar y pryd. Ydech-chi'n gweld, roedd y peth mor sydyn; er nad oedd Mr Prys ddim yn ddyn graenus a thew fel y fi, eto roedd-o'n edrych yn hollol iach a chryf. Ond wyddai neb yn iawn beth oedd wedi digwydd. Doedd y wraig na'r morynion ddim yn deall dim Cymraeg, na'r nesa peth i ddim Saesneg, a Ffrangeg fydden nhw'n i siarad yn y tŷ; felly, doedd dim modd cael fawr o'r hanes gan neb oedd yn i wybod-o. Wn-i ddim yn lle claddwyd i gorff-o, ond rydw-i'n tybied mai mynd â fo i ffwrdd yn y nos a wnaethon-nhw."
"Diar mi, rhyfedd iawn," meddai Morgan, ac yr oedd yn amlwg fod ei natur wedi ei chyffwrdd gan stori Plas y Nos. Ond eistedd yn ddistaw a wnâi Bonnard o hyd.
"Ie, wir, roedd rhywbeth rhyfedd yn y cwbwl i gyd," dechreuodd Mr Edwards drachefn; "yn union wedi marw Mr Prys, mi ddoth gŵr bynheddig diarth i'r Plas, na wyddai neb ar wyneb y ddaear pwy oedd-o, na beth oedd-o'n geisio. Y peth nesa glywsom-ni oedd fod y bachgen bach a'r nyrs wedi mynd i ffwrdd i Ffrainc. Reit fuan wedyn, dyma'r stori fod Mrs Prys ar goll. Mi redodd y forwyn i ffwrdd, ag at berson y plwy, ond fedrai hwnnw ddim i deall-hi'n iawn, ond