Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/22

Gwirwyd y dudalen hon

mi gasglodd fod Mrs Prys wedi dengyd ar ôl y bachgen bach, ag nad oedd neb yn y Plas ond y gŵr bynheddig diarth, Mr Crutch, ag nad oedd o ddim ar berwyl da. Ond wrth nad oedd neb yn deall y Ffrancreg, mi aeth i ffwrdd i'w gwlad i hun, a wnaeth neb fawr o ddim am rai dyddiau. Ond pan aeth rhywun at y Plas, mi gafwyd bod y lle wedi'i gloi i fyny, a'i adael. Felly mae-o wedi bod byth er hynny hyd yn awr. Ond mae pob math o bethau wedi bod yn cael i deud, a does neb yn unlle ffordd yma a fentrai yno pe cawsai-fo'r lle am fynd. Mae sôn fod yno arian a phethau gwerthfawr, a llawer o hen ddodrefn derw, ond fentrai neb ar i cyfyl-nhw tasen-nhw'n aur melyn i gyd. Dydw-i ddim yn gwybod pwy biau'r lle yn awr, a chlywais-i ddim ers dros ugain mlynedd fod ar neb eisiau ei rentu-o."

"Oedd'na ryw amheuaeth fod yna gam chwarae wedi bod ynglŷn â Mrs Prys, neu rywbeth felly?" gofynnodd Gwynn Morgan.

Am y tro cyntaf yn ystod yr ymgom, cododd Bonnard ei Ben, a hoeliodd ei lygaid duon, treiddgar, ar ŵr y tŷ, a hwnnw'n ateb:

"Wir, syr, dyna oedd pobol yn i sibrwd; roedden-nhw'n deud mai cael i mwrdro ddaru hi."

"I mwrdro! Gan bwy?" gofynnodd Morgan.

Neidiodd Bonnard ar ei draed, ond suddodd eilwaith i'w gadair heb ddywedyd dim.

"Gan y Mistar Crutch hwnnw, syr," atebodd Edwards, mewn llais isel, hanner ofnus. "Dydw-i ddim yn gwybod yn siŵr, ag mae-hi'n debyg na cha-i byth wybod bellach-ond maen-nhw'n deud bod i hysbryd-hi'n cerdded, a'i fod-o wedi ymddangos, a bod