Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/26

Gwirwyd y dudalen hon

Bess yn teyrnasu", fel y gwelai llygaid y cyfarwydd ar unwaith oddi wrth luniad y conglau a'r ffenestri; ac fel holl adeiladau urddasol y cyfnod euraid hwnnw, yr oedd yn bur fawr. Dyma'r adeg yr enillodd y Cymry eu coron a'u hunan-barch yn ôl o afaelion tynion Siôn Ben Tarw. Wedi ennill ei hannibyniaeth yn ôl yn anrhydeddus, ymdawelodd Cymru yn ei lle yn yr ymerodraeth fawr. Daeth pendefigion Cymru yn brif lyswyr y brenin yn Lloegr, a dechreuwyd adeiladu plasau heirdd ar hyd a lled y wlad. Un o'r rheini oedd Plas y Nos. Yn ôl yr hanes a gawn yn Swyddfa'r Cofnodion yn Llundain, codwyd ef gan Syr John Wynn o Wydir, ffafrddyn enwog y Frenhines Bess, ac nid annhebyg i'r fanon lawen honno, ar ei thaith drwy Gymru, aros yng nghadernid Eryri, a derbyn croeso yn unigrwydd dwfn Plas y Nos. Os gwir hyn, bu ei neuaddau eang yn rhy gyfyng i nifer y gwŷr llys a rodiai ar hyd-ddynt, a bu tannau mwynion telynau'r Cymry yn deffro eco creigiau'r fro i groesawu'r frenhines lon y rhedai eu gwaed yn ei gwythiennau. Trwchus iawn oedd muriau Plas y Nos, ac fel y ceid yn adeiladau'r cyfnod hwnnw, rhedai mynedfeydd dirgel o un ystafell i'r llall drwy'r muriau, â chlocon dirgel yn symud darluniau, ac yn datguddio drysau cudd i'r mur, fel na wyddai'r dieithryn byth nifer y drysau i'w ystafell. Cyfnod dawns a chân, mabol gamp a brwydr, cariad cudd a direidi cyfrwys, ydoedd hwnnw, ac nid y pruddaf lle ym Mhrydain oedd Plas y Nos.

Ond heddiw, wrth syllu ar dristwch ac adfail y gogoniant gynt, nid hawdd dychmygu i londer erioed chwerthin yng nghynteddoedd Plas y Nos. Heddiw,