ar y clogwyni. Morgan a fuasai'n siarad y cyfan ar hyd y daith; ychydig iawn a ddywedasai Bonnard, ac fel y dynesent at Blas y Nos aethai yn hollol fud.
Beth, tybed, a gymerasai feddiant mor llwyr o'i feddyliau nes pwyso mor drwm ar ei ysbryd? Dychmygion pruddion a dieithr wedi eu creu gan ei ddychymyg byw? Ai cysgod rhyw bechod mawr a orweddai arno nes llethu ei gydwybod? Edrychai o'i flaen ag aeliau wedi eu gostwng a gwefusau tynion. Uwchlaw ysgydwai canghennau'r coed, a chwibanai'r gwynt ei gri wylofus drwy bob mynedfa gul, anial a thywyll. Yr oedd eu traed ar y llwybr a arweiniai heibio i ddorau Plas y Nos. Ebr Gwynn:
"Welais-i erioed le mor unig; welsom-ni ddim ond un dyn ar hyd y ffordd, ag yr oedd hynny tua thair milltir oddi yma."
"Lle campus i lofruddiaeth," atebodd Bonnard yn dawel a distaw; mor ddistaw a dieithr oedd ei lais fel y troes Gwynn Morgan ato mewn syndod.
"Ie, ond efallai mai anwiredd ydi'r stori am Mr Lucas Prys."
"Wel, gall hynny fod."
"Yr ydym-ni yn ymyl yn awr," ebr Gwynn, ychydig ymhellach ymlaen. "Dyma'r rhes cypryswydd tal y soniodd Mr Edwards amdanyn-nhw. Peth rhyfedd fod neb yn plannu rhes o goed y fynwent yn ymyl i dŷ. Hwyrach i bod-nhw yn hŷn na'r tŷ," meddai Bonnard.
Safasant. Tuag ugain llath oddi wrthynt, gwelent y porth haearn rhydlyd; a thu draw iddo drwy'r coed caent gipolwg ar yr hen adeilad trymaidd.