ysbrydoliaeth fuasai'n rhoi digon o galon imi i eistedd yma am ddwy awr ganol nos i gynllunio'r pictiwr."
Nid atebodd Bonnard air. Erbyn hyn yr oeddynt trwy'r bwlch yn y mur toredig, ac ynghanol y drysni, y mieri a'r glaswellt hir. Bonnard oedd yn arwain. "Cymerwch ofal mawr," meddai; "mae'r ddaear yn dyllau i gyd, a'r hen wreiddiau yma a'r chwyn wedi cydio yn i gilydd yn fachau a rhwydau, a hawdd iawn ydi cael codwm."
Ochneidiai'r gwynt ym mrigau'r coed uwchben, a neidiodd llyffant yn awr ac eilwaith oddi ar eu llwybr, neu ymlusgai'r genau-goeg drwy'r gwellt, wedi dychrynu wrth sŵn dieithr troed dyn.
"Mae gwaeth ymlusgiaid na thi-rhai hacrach a duach," meddai Bonnard, wrth gamu o'r ffordd rhag sathru ar lyffant du dafadennog a eisteddai ar y llwybr gan lygad-rythu arnynt mewn syndod dwl a'i wddf yn chwyddo gan ddig.
Tyfai'r coed yn y fath gyflawnder amgylch ogylch y tŷ fel mai anodd oedd cael golwg gyflawn arno o unman. Ond wedi cryn wthio drwy'r prysgwydd, daethant i le y caent olwg ohono ar ran o'r hen adeilad. Yno safasant am ysbaid, a hawdd oedd canfod bod yr olwg arno yn effeithio'n ddyfnach ar deimladau tyner, dwysion Bonnard nag ar eiddo'r Cymro nwyfus a llon. Daeth y gwelwder marwol eto i'w wyneb, a hyd yn oed ar ei wefusau crynedig. Ag ing llym yn nyfnder ei lygaid duon y syllodd yn hir ar y muriau eiddew, a'r ffenestri cudd na welid ohonynt byth belydr goleuni. Amlwg oedd ei fod mewn ymdrech barhaus am feistrolaeth ar deimlad a fynnai ei orchfygu—atgof poen a