Chwarddodd Gwynn Morgan.
"Be sy'n peri ichi fod mor selog, Ivor? Does 'na ddim byd tu mewn ond llygod a phryfed cop."
Trodd Bonnard ei ben draw, er mwyn cuddio, efallai, y gwelwder a ddaethai eto dros ei wyneb.
Rydw-i wedi penderfynu mynd," meddai, "a phan fydda-i'n penderfynu gwneud rhywbeth, mi fydda-i'n i wneud-o bob amser. Ag mi fydd rhyw fympwyon fel hyn yn dwad i 'mhen-i weithiau."
"Mi fuasai'n dda gen i petasai hyn heb ddwad i'ch pen-chi erioed, Ivor.
"Sut hynny? Roedd arnoch chi'ch hun eisiau mynd i'r tŷ yna funud neu ddau'n ôl."
"Wel, fel y mynnoch-chi, ond peidiwch â mynd i beryg, dyna'r cwbwl."
Erbyn hyn yr oeddynt wrth gefn y tŷ, ac os oedd anghyfanhedd-dra yn amlwg yn y ffrynt, yr oedd yn flawer mwy felly yma. Ond nid oedd yma chwaith un olwg am fynedfa i mewn. Nid oedd ffenestr y gellid ei chyrraedd oddi ar lawr. A thywylled oedd golwg y rhai a oedd i fyny, edrychai'n debyg fod caeadau oddi mewn i'r rheini hefyd. Gwnaethai llwch a lleithder blynyddoedd hi'n amhosibl i neb wybod i sicrwydd beth oedd eu cyflwr. Ond yn sydyn, canfu llygaid craff Bonnard ddrws wedi ei osod yn ddwfn i mewn yn y mur trwchus, a'r prysgwydd tew yn ei guddio bron yn gyfan gwbl o'r golwg, a chwyn dwy neu dair troedfedd o uchder yn tyfu drwy'r prysgwydd.
Aeth at y drws hwn; gwthiodd ymaith y coed a'r chwyn, ac edrychodd arno'n fanwl. Derw oedd ei ddefnydd, a llawer o farrau heyrn drosto; yr oedd yn