bur isel, ond gallai dyn o daldra cyffredin fyned trwyddo, ond gostwng ychydig ar ei ben. Ceisiodd Bonnard ei agor, ond, fel y disgwyliai, ni allai. Chwiliodd y clo yn ofalus, a daeth golau dieithr i'w lygaid; tynnodd anadl hir a distaw. Safai Morgan gerllaw yn gwylio ei gyfaill.
"Wel, oes yna ryw ryfeddod?" gofynnodd, fel y trôi Bonnard ei wyneb tuag ato.
"Wn-i ddim," oedd yr ateb, mewn llais crynedig. Edrychodd o'i amgylch, ac yna chwanegodd mewn llais cliriach ac uwch, "Fedrwn-ni ddim mynd i mewn y ffordd yma, beth bynnag, Gwynn."
Gafaelodd ym mraich Morgan, a thynnodd ef ymaith yn dyner i fysg y coed. Parai ei ddull rhyfedd a dieithr i Morgan ei ddilyn mewn distawrwydd, hyd oni safodd Bonnard. Yr adeg honno gwelodd Morgan fod llygaid duon ei gyfaill yn fflachio tân.
"Gwynn," eb ef, yn yr un llais dwfn, isel, "mae'r drws yna wedi bod yn agored ers llai nag ugain mlynedd—ers llai na blwyddyn."
"Y nefoedd fawr! Tybed?"
Mi chwiliais y clo yn fanwl; mae yna agoriad wedi bod ynddo yn ddiweddar; mae'n lân oddi wrth rwd tu mewn, ac ôl yr agoriad ar ymyl twll y clo. Mae ôl troed dyn mewn dau neu dri o leoedd ar y gwelltglas tu allan i'r drws."
"Ydech-chi'n meddwl i bod yn bosib fod creadur dynol yn byw yn y fath le â hwn?"
Pwy a ŵyr? Mae dynion i'w cael heb na theimladau na chydwybod; mae ambell i gybydd fuasai'n caru lle fel hyn er mwyn bod ar i ben i hun hefo'i aur.