Hwyrach mai rhyw druan ar ffo rhag cyfiawnder sydd yna, ag yn rhyw ddirgel gredu na ddaw swyddogion y gyfraith byth i Blas y Nos i chwilio amdano."
Wrth weled wyneb gwelw Bonnard, a gwrando'r nodyn dieithr yn ei lais, prin y credai Morgan ei fod wedi dweud cymaint ag a oedd ar ei feddwl.
"Wel," meddai, os felly mae pethau—a dydw-i ddim yn credu bod ych tybiaeth-chi'n iawn—dydi-o fawr o bwys i chi na minnau prun a oes yma rywun ai peidio. Beth fyddai inni gychwyn yn ôl?"
Os oes gennych-chi wrthwynebiad i dorri i mewn i'r tŷ yna, mi ddo-i yn ôl rŵan, debyg iawn. Ond mi ddo-i yma fy hun y tro nesa, ag mi a'-i i mewn y tro hwnnw."
Troesant ar hynny i gychwyn yn ôl, a dechrau ymwthio drwy'r drysni dan y coed nes dyfod allan yn y cwm ychydig yn is i lawr na'r fan lle y gadawsent y ffordd gul. Neidiodd Gwynn Morgan yn glir dros y gwrych, ac wedi cyrraedd y ffordd ymsythodd, lledodd ei freichiau, a thynnu anadl hir fel gŵr wedi cael gollyngdod. Yna dywedodd, â gwên lawen ar ei wyneb, nad oedd wedi ymserchu fawr yn y fangre unig, drymllyd, fud, y safai hen adfail Plas y Nos arni, ac na fu erioed mor agos i gael y pruddglwyf yn unman.
Safodd Bonnard yntau ar ganol y ffordd, â'i lygaid yng nghyfeiriad yr hen adfail; ac yn ei drem yr oedd digllonedd, gelyniaeth, a chreulondeb didrugaredd—yr olwg a ddaw i wyneb gŵr nwydlawn wrth weled ei elyn marwol yn dianc o'i afaelion. Wrth ei weled, aeth ias oer, hanner ofergoelus, dros holl gorff Gwynn Morgan. Daeth yr hen deimlad o ansicrwydd ynghylch ei