gyfaill ato â mwy o rym nag erioed; a sylweddolodd am y tro cyntaf leied a wyddai o'i hanes. A pheth anhawster y cyfarchodd ef, mewn llais yn ymylu ar fod yn aneglur:"
Bonnard, beth sy'n bod? Mae'na ryw ddirgelwch fan yma. Roedd dirgelwch o'ch cwmpas-chi bob amser. Ydech-chi'n gwybod rhywbeth am Blas y Nos, neu rywun fu'n byw yno?
"Dowch ymlaen dipyn," atebodd yntau, "ag wedyn mi alla-i siarad â chi; fedra-i ddeud dim yn y fan yma.
Synnodd Morgan fwy fyth at ddull ei gyfaill, a cherddasant mewn mudandod am tua milltir o ffordd. Collasant eu golwg ar Blas y Nos, a'r cwm y safai ynddo, yng nghysgod un o fryniau tal Arfon.
Safodd Bonnard, a throdd at Morgan.
Roeddech-chi'n deud neithiwr ych bod-chi'n ymddiried yno-i," eb ef, mewn tôn angerddol. "Parhewch i wneud hynny, ag ar fy anrhydedd, chewch-chi mo'ch siomi. Beth bynnag ydw-i'n i gadw rhagddoch-chi, rydw i'n gwneud hynny er ych mwyn chi ych hun, ag nid am nad oes gen i ymddiried ynoch-chi. Does dim swyn ym Mhlas y Nos i mi, ag eto mi wn-i rywbeth amdano. Beth ydi hynny, fy nghyfrinach i ydi-o, a rhaid imi i chadw am beth amser yn chwaneg. Hwyrach y cewch wybod y cwbwl ryw ddiwrnod. Rydw-i'n bwriadu mynd i mewn i'r hen dŷ yna, a chwilio am y peth y mynna-i wybod yn i gylch-o, ac mi wna-i hynny, deled a ddelo."
Gwthiai ei eiriau allan mewn dull ffyrnig rhwng ei ddannedd, a Gwynn yn llygadrythu arno mewn syndod.