Cymru—hen dŷ a fuasai'n wag am bum mlynedd ar hugain?
Dydw-i'n hoffi fawr ar hyn, Ivor; mi wela-i fod rhywbeth ar ych meddwl-chi ynglŷn â'r hen dŷ yna. Gobeithio dydech-chi ddim am ych peryglu ych hun mewn ffordd yn y byd o achos y fympwy ryfedd yma."
"Dydi'r peryg ddim yn werth sôn amdano. Os oes yna rywun yn ymguddio yn y tŷ, y tebyg ydi mai rhyw gybydd hanner gwallgo ydi-o, neu ryw ddyhiryn ag arswyd cyfiawnder arno. Does arna-i ddim eisiau aflonyddu ar neb felly. Ond am y peth sy'n fy nwyn i yma, rhaid imi i wneud-o ar fy mhen fy hun. Y cwbwl a ofynna-i gennych-chi yrŵan ydi peidio ag yngan gair wrth neb am ddim a fu yma heddiw. Mi ddywedwn ni yn bod-ni wedi mynd at y tŷ, a methu mynd i mewn.
Mi barcha-i ych cyfrinach-chi, a pheidio â thrio'i dehongli-hi, na threiddio tu hwnt i'r terfynau a osodwch-chi imi. Ond gadwch inni fyw hefo'n gilydd. Mi arhoswn-ni y fan fynnoch-chi-ag mi symudwn pan fynnoch-chi. Mi fedra-i 'y mwynhau fy hun yn iawn. Wna i ddim holi lle byddwch-chi'n mynd, nag o ble byddwch-chi'n dwad, na thrio gwybod dim ond be fyddwch-chi'n i ddeud wrtha-i."
Cododd dagrau gloywon i lygaid Bonnard wrth wrando'r geiriau hyn, a gwasgodd law ei gyfaill yn dynn.
"Gwynn," eb ef, mewn teimlad dwys, "dydw-i ddim yn haeddu cyfeillgarwch fel ych un chi; ond mi wyr y Duw Mawr 'y mod innau mor bur i chithau. Arhoswch hefo mi, 'y nghyfaill cywir-i; fedrwn-i ddim meddwl am wrthod ych cynnig-chi. Maddeuwch imi