Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/40

Gwirwyd y dudalen hon

am na fedra-i ddim deud dim mwy. Petasech-chi'n gwybod popeth, cydymdeimlo'n ddyfnach â mi wnaech-chi.

"Wela' i ddim bod dim byd i'w faddau, Ivor; ond waeth-gen i ddeud na pheidio, mi fuaswn-i'n mynd i ffwrdd â chalon bur drom petasai raid inni ymwahanu."

"Er ych mwyn chi, ag nid er 'y mwyn fy hun, yr awgrymais i hynny. Fedrwn-i ddim meddwl am 'y ngwneud fy hun yn boen a baich ichi. Ond dyna ddigon; ar hyn o bryd, beth bynnag, fe arhoswn-ni hefo'n gilydd."

"Mi arhosa-i nes cael gorchymyn i fynd," ebr Gwynn.

Wedi ymgynghori ar eu ffordd yn ôl, penderfynasant adael y gwesty, a mynd ymlaen i'r pentref nesaf, tua phum milltir a hanner yr ochr arall i Blas y Nos. Oddi yno gallai Bonnard gerdded i Blas y Nos y noswaith honno. Yr oedd yn llawer gwell cerddwr na Morgan, er mai hwnnw oedd y mabol gampwr gorau. Nid oedd pum neu chwe milltir, fwy neu lai, yn poeni fawr ar Bonnard. Ac ni allasai, pe mynasai, gael llety nes i Blas y Nos na hynny, oherwydd anghyfanhedddra'r wlad. Wedi talu am eu llety, a llogi cerbyd, ymaith â hwy i'r pentref nesaf, lle y cawsant le cysurus arall. Wedi cael ymborth, dechreuodd Morgan osod ei bethau mewn trefn i aros rai dyddiau; ac fe'i hwyliodd Bonnard ei hun i gychwyn ar ei daith unig dan gysgodau'r hwyr tua Phlas y Nos.