Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/41

Gwirwyd y dudalen hon

5

LLIO

Llio curwallt, lliw arian,
Llewych mellt ar y lluwch mân.

MORDWYAI cymylau golau fel llynghesoedd dros lesni awyr y nos, gan guddio a datguddio lleuad ddisglair agos i lawn, fel y cerddai Ivor Bonnard yn gyflym ar ei daith unig tua Phlas y Nos. Noswaith wyllt, sych, wyntog, ydoedd; noswaith a dueddai i wroli yn hytrach na digalonni ysbryd anturiaethus. Nid oes dim yn fwy adnabyddus na'r effaith a gaiff natur ar ysbryd dyn. Wrth ruthro yn y trên drwy olygfeydd gwylltion, rhamantus, yn yr Alpau, neu'r Mynyddoedd Creigiog, teimla'r galon anturiaethus syched yn ei llenwi am wynebu peryglon, a gorchfygu anawsterau. Yn lle gwanhau, cryfhau a wnâi gwroldeb Bonnard fel y dynesai at Blas y Nos. Eto, noson oedd hon i lenwi'r ofnus â braw. Symudai cysgodion y cymylau ar hyd wyneb y ddaear, a newidiai cysgodion brigau'r coed i bob ffurf a llun dan gernodiau ffyrnig gwynt y gorllewin. Awgrymai'r cysgodion ansicr eu dawns bresenoldeb ellyllon a drychiolaethau i'r dychymyg; a swniai'r gwynt trwy'r brigau a'r glaswellt fel rhuthr lleng o ysbrydion anweledig yng ngolau gwan, gwelw'r lloer; cymerai pethau cyffredin ffurfiau annaturiol, a hawdd i feddwl dyn oedd llithro i stad freuddwydiol ac