Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/42

Gwirwyd y dudalen hon

ofnus, ac ymlenwi â hanesion dychrynllyd am ffyrdd a llwybrau lle y cyniweiria ysbrydion anesmwyth eu byd.

Dichon i'r cyfryw feddyliau ddyfod at Bonnard, ond sicr yw na pharlyswyd mo'i benderfyniad na'i awydd i fynd i Blas y Nos. Cyflymai ei gamau dros y bryniau a thrwy'r cymoedd a orweddai rhyngddo a'r lle. Yr oedd o natur dyner a llednais iawn, a'i ysbryd yn gyflym i dderbyn argraffiadau oddi wrth y pethau o'i amgylch. Ond heno llanwai amcan ei daith ei feddwl, fel na chaffai ei ddychymyg lawn chwarae teg. Eto, fel y dynesai at ben y daith, ac fel y gwyliai ddawns wyllt, gyfrin, cysgodau brigau'r coed ar draws ei lwybrau, curai ei galon yn gynt.

Nid calon wan a wnâi'r tro i wynebu'r anturiaeth hon-nesâu yn unigedd a thrymder y nos at hen adfail o'r fath felltigaid goffadwriaeth-anturiaeth y buasai'r cyffredin yn ymgroesi ac yn dianc rhagddi. Ychydig ddynion yn y wlad, efallai, a fedrai wneud y peth a wnâi Bonnard y noswaith hon. Eto, nid ofnai ac ni chrynai ef, ac nid argoelai ei gamau cyflym un awydd am droi yn ôl. Ond fel y dechreuai droi ar i lawr tua'r coed, gafaelai yn dynnach yn ei lawddryll, a chadwai ei feddwl arno, er mwyn bod yn barod, beth bynnag a ddamweiniai ei gyfarfod. Nid oedd yn disgwyl cyfarfod â neb yma, y mae'n wir; meddyliai y gallai, hwyrach, ddyfod ar draws rhyw grwydryn a ddaethai yn wysg ei drwyn i gymdogaeth Plas y Nos heb wybod dim amdano.

Rhaid oedd cerdded yn ofalus yn y coed hyn. Dewed oedd y brigau uwchben nes gwneud y ddaear danynt yn dywyll iawn, a'r lle hefyd yn ddieithr i Bonnard hyd